Gŵyl Hanes Cymru i Blant 2020
Mae Cadw wedi cefnogi Gŵyl Hanes Cymru i Blant ers blynyddoedd lawer fel perfformiadau byw ar draws ei safleoedd.
Bu’n rhaid i ŵyl 2020 addasu a chymryd cymeriadau o Hanes Cymru ar-lein. Gwnaethom gefnogi'r Ŵyl ‘Ddigidol’ eleni fel rhan bwysig o’n darpariaeth o adnoddau ar-lein newydd ar gyfer dysgu cyfunol.
Er mwyn ehangu hygyrchedd, anogodd Cadw ymhellach y defnydd o fersiynau Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o'r ffilmiau. Hwn oedd y tro cyntaf i'r ŵyl ddarparu'r cyfleuster hwn, ac rydym wrth ein bodd gyda'r datblygiad hwn. Gyda diweddglo’r ŵyl, gallwch nawr fwynhau’r cymeriadau hynny a gefnogir gan Cadw yma nes i’r ŵyl nesaf ddechrau ym mis Medi 2021.
Ar ôl blynyddoedd o fyw dan ormes Arglwyddi’r Mers a brenhiniaeth Lloegr, dyma un Cymro dewr yn penderfynu taw digon oedd digon.*
*Byddwch yn ymwybodol bod y fideo hwn yn cynnwys cyfeiriadau at ryfel ac efallai na fydd yn addas i blant iau.
Dros gan mlynedd ers marwolaeth a champ Eisteddfodol y Prifardd Hedd Wyn, dyma gyfle i blant Cymru glywed ei stori drist ond ysbrydoledig.
Pam fydde unrhyw un am gerdded 26 milltir heb esgidiau? Dyma gyfle i gwrdd â’r ferch 16 oed, Mari Jones. Merch ysgol, tlawd oedd hi, â’i bryd ar rywbeth pwysig – un o’r llyfrau cyntaf oedd ar gael yn y Gymraeg — Y Beibl. Weithiau mae merch fach yn medru gwneud pethau mawr.
Wedi’i eni yng Nghasnewydd Bach, yn Sir Benfro, nid dewis Barti Ddu oedd bod yn fôr-leidr. Eto’i gyd fe ddatblygodd yn arweinydd eofn a ysbeiliodd dros 400 o longau gan arwsydo morwyr y Caribî.
Roedd Yr Esgob William Morgan, pan fu farw yn 1604, yn ddyn tlawd gan adael yn ei ewyllys ychydig o lestri piwter, pum pot blodyn, dau baun a dau alarch. Er hyn, yn ystod ei oes, creodd un o drysorau mwya’ gwerthfawr y genedl — Y Beibl Cymraeg.