Skip to main content

Tocynnau mynediad 

Nid oes angen i chi archebu tocynnau cyn ymweld â safleoedd Cadw mwyach; os hoffech archebu eich tocynnau ar-lein, ewch i’n gwefan docynnau. 

(ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd).

Digwyddiadau Cadw

Nid oes angen rhagarchebu ar gyfer ein digwyddiadau mynediad cyffredinol. Gellir prynu pob tocyn mynediad wrth gyrraedd. Yr unig eithriad yw Castell Coch. Oherwydd natur fechan y safle a phrinder lle yn rhai o ystafelloedd y castell, mae rhagarchebu tocynnau ar gyfer holl ddigwyddiadau Castell Coch yn hanfodol.

I ble hoffech chi fynd?

Rydym yn gofalu am 130 o safleoedd hanesyddol ledled Cymru, gyda llawer ohonyn nhw ar agor ac yn rhad ac am ddim i ymweld â nhw.

Edrychwch ar wefannau unigol y safleoedd am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag amseroedd agor a chyfleusterau (mae rhai o’n safleoedd sydd â ffi mynediad yn cau dros gyfnod y gaeaf).

Oherwydd natur rhai o’n henebion, efallai y bydd angen i ni gau safleoedd ar fyr rybudd pan fo’r tywydd yn wael.

Os ydych chi’n bwriadu ymweld yn ystod tywydd gwael, edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ffoniwch ein tîm cyn ymweld i wneud yn siŵr bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld ag ef.

Os oes gennych gwestiynau am eich ymweliad, ffoniwch ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid ar: 03000 252239 neu e-bostiwch ni ar cadw@pti.cymru

Mae'r newidiadau diweddaraf i’r cyfyngiadau COVID-19 yng Nghymru yn berthnasol

Mae'r cyfyngiadau'n newid yn aml, felly mae'n bwysig eich bod yn edrych ar wefan Llywodraeth Cymru cyn cynllunio eich ymweliad â safle Cadw: Llywodraeth Cymru - Rheoliadau coronafeirws.