Gwneud y mwyaf o’ch ymweliad â safleoedd Cadw
Tocynnau mynediad
Nid oes angen archebu ymlaen llaw ar gyfer ymweliadau â safleoedd hanesyddol Cadw. Fodd bynnag, mae tocynnau ar-lein ar gael ar gyfer rhai o'n cestyll a'n tai hanesyddol mwy.
I archebu eich tocynnau ymlaen llaw:
- Ewch i'n tudalen I Ble Hoffech Chi Fynd
- dewiswch eich heneb
- dewiswch Prisiau a Thocynnau
- cliciwch Archebu Mynediad
(ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd).
Digwyddiadau Cadw
Nid oes angen archebu ymlaen llaw ar gyfer unrhyw ddigwyddiad Cadw lle codir prisiau mynediad safonol ac a gynhelir o fewn oriau agor safonol. Gellir prynu tocynnau mynediad ar ôl cyrraedd neu ar-lein.
(Yr unig eithriad yw Castell Coch: oherwydd y capasiti cyfyngedig ar y safle fe'ch cynghorir i archebu tocynnau ar-lein ymlaen llaw.)
Ewch i'n tudalen Dod o hyd i ddigwyddiad Cadw am restr lawn o ddigwyddiadau Cadw.
Os bydd angen archebu tocyn i ddigwyddiad Cadw ar gyfer gweithgareddau ychwanegol y codir tâl amdanynt, digwyddiadau gyda'r nos, neu ddigwyddiadau arbennig, bydd yr holl fanylion yn cael eu harddangos ar dudalennau digwyddiadau unigol yn yr ardal Be sy’n digwydd.
(Sylwch nad oes modd cael ad-daliad am docynnau sydd wedi'u harchebu ymlaen llaw.)
I ble hoffech chi fynd?
Rydym yn gofalu am 130 o safleoedd hanesyddol ledled Cymru, gyda llawer ohonyn nhw ar agor ac yn rhad ac am ddim i ymweld â nhw.
Edrychwch ar wefannau unigol y safleoedd am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag amseroedd agor a chyfleusterau (mae rhai o’n safleoedd sydd â ffi mynediad yn cau dros gyfnod y gaeaf).
Oherwydd natur rhai o’n henebion, efallai y bydd angen i ni gau safleoedd ar fyr rybudd pan fo’r tywydd yn wael.
Os ydych chi’n bwriadu ymweld yn ystod tywydd gwael, edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ffoniwch ein tîm cyn ymweld i wneud yn siŵr bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld ag ef.
Os oes gennych gwestiynau am eich ymweliad, ffoniwch ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid ar: 03000 252239 neu e-bostiwch ni ar cadw@tfw.wales