Trosi ysgubor ddynodedig Gradd II* yn ganolfan ymwelwyr ar gyfer yr 21ain ganrif
Yn Llys a Chastell Tretŵr, cartref un o’r teuluoedd Cymreig mwyaf grymus yn ystod Rhyfel y Rhosynnau, mae Cadw ar fin dechrau ar brosiect heriol i gadw a thrawsnewid Heneb Gofrestredig yn ganolfan ymwelwyr o’r radd uchaf.
Bydd ysgubor, a oedd yn wreiddiol yn adeilad domestig yn y bymthegfed ganrif, yn cael ei gweddnewid i gynnwys mynedfa newydd i ymwelwyr, swyddfa, siop, toiledau a man arddangos, ond gan gadw ei golwg a’i chymeriad o’r tu allan.
Byddwn hefyd yn rhoi’n ôl y llawr cyntaf gwreiddiol er mwyn cynnig lle ar gyfer ystafell de a digwyddiadau cymunedol lleol.
Bydd y ganolfan ymwelwyr newydd yn cynnig croeso cynnes ac yn ei gwneud hi’n haws i ymwelwyr fynd i Dretwˆ r gan ddisodli’r man derbyn bychan sydd yn y prif fuarth. Bydd lifft newydd hefyd yn cael ei osod i’w gwneud hi’n hawdd cyrraedd llawr cyntaf yr ysgubor, ble gall ymwelwyr fwynhau lluniaeth ysgafn a mwynhau awyrgylch y safle gwledig hwn.
Meddai Stephen Jones, Uwch Reolwr Gwasanaethau Cadwraeth a Dylunio Cadw,
‘Mae’n brosiect anarferol I weithio arno, ac mae’n fraint cael gwneud. Mae’r broses ddylunio wedi bod yn heriol iawn wrth i ni geisio cael y drefn iawn i gwrdd â gofynion Cadw a’n hymwelwyr, ond gan sicrhau bod y cynlluniau newydd yn cadw at Egwyddorion Cadwraeth Cadw.'