Skip to main content

GDPR (Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol)

1. Mae’r data personol y mae Cadw’n ei gasglu’n angenrheidiol er mwyn gweinyddu eich tanysgrifiad i dderbyn ein cylchlythyron ac i roi gwybodaeth i chi sy’n berthnasol i chi, a hefyd gwybodaeth rydych chi wedi dewis ei dderbyn gennym ni. Bydd eich data personol ond yn cael ei gadw am hyd eich tansygrifiad gweithredol i gronfa ddata ein cylchlythyr. Cyn gynted ag y byddwch yn tanysgrifio o’n cronfa ddata, ni fyddwn yn defnyddio eich data ymhellach.

2. Y rheolydd data yw Cadw, Llywodraeth Cymru. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch cadw@gov.wales a byddwn yn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith. Os ydych chi am gysylltu â Llywodraeth Cymru gydag ymholiad neu bryder ynglŷn â sut defnyddir eich data personol, cysylltwch â: cwynion@llyw.cymru

3. Bydd Cadw’n rhannu eich data â GovDelivery, asiantaeth trydydd parti, er mwyn gweinyddu eich tanysgrifiad.

4. Mae gennych yr hawl i:

• Gael mynediad i’r data personol rydym yn ei brosesu amdanoch chi

• Ofyn i ni gywiro gwallau yn y data

• Wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
• Ofyn i’ch data gael ei ddileu (mewn rhai amgylchiadau)

• Gael gafael ar ac ailddefnyddio eich data personol at eich dibenion eich hun ar draws gwahanol wasanaethau (mewn rhai amgylchiadau)

• Wneud cwyn

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn

Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw fodd, byddwn yn gosod fersiwn diwygiedig ar y dudalen hon. Bydd gwirio’r dudalen hon yn gyson yn sicrhau eich bod bob amser yn ymwybodol o’r wybodaeth a gasglwn, sut y’i defnyddiwn ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rannu gyda phartïon eraill.