Skip to main content

Gwaith Brys ar gyfer Adeiladau mewn Perygl — Grantiau i Awdurdodau Lleol 2022-23

Mae gan Awdurdodau Lleol rôl bwysig o ran diogelu a gwarchod yr amgylchedd hanesyddol, gan weithio gyda pherchnogion a gwarcheidwaid adeiladau rhestredig i ddod o hyd i atebion pan fo adeiladau mewn perygl neu sefyllfa fregus.

Mae ganddynt hefyd y pwerau statudol o dan adran 54 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 i sicrhau bod gwaith sydd ei angen i ddiogelu arwyddocâd adeiladau rhestredig yn cael ei wneud yn brydlon.

Mae Cadw yn annog Awdurdodau Lleol i ddefnyddio’r pwerau hyn, ond yn cydnabod yr heriau ariannol y maent yn eu hwynebu wrth gyflwyno Hysbysiadau Gwaith Brys. Drwy’r grant hwn, gall Cadw helpu Awdurdodau Lleol i dalu costau paratoi a chyflwyno Hysbysiadau Gwaith Brys er mwyn diogelu cyflwr adeiladau rhestredig sydd mewn perygl ac mewn sefyllfa fregus.

Gall y grant gynorthwyo gyda’r canlynol:

  • costau sy’n gysylltiedig â pharatoi a chyflwyno Hysbysiadau Gwaith Brys o dan Adran 54 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, mae hyn yn cynnwys costau ffioedd ar gyfer cynghorwyr allanol yn unig
  • gwaith sy’n cael ei wneud mewn diffyg gan yr Awdurdod Lleol
  • er bod ffocws pennaf y grant ar gyflwyno Hysbysiadau Gwaith Brys, gall cyllid fod ar gael hefyd i gynorthwyo awdurdodau lleol i dalu costau cyflwyno hysbysiadau statudol eraill, sydd â’r nod o ddiogelu cyflwr adeiladau rhestredig mewn perygl, gan gynnwys hysbysiadau Adran 215 — fe’ch anogir i drafod y cynigion hyn gyda Cadw cyn cyflwyno’ch cais.

Bydd Cadw yn ariannu hyd at 80% o gyfanswm costau cymwys hyd at uchafswm o £50,000.

Rydym yn annog awdurdodau lleol i fanteisio ar y cyllid hwn ac rydym yn croesawu trafodaethau cynnar ar achosion penodol sydd gennych chi o bosibl. Anfonwch unrhyw ymholiadau at y tîm Grantiau Adeiladau Hanesyddol ym mlwch negeseuon e-bost Grantiau Cadw yn CADWGrantsMailbox@llyw.cymru

Yn llinell pwnc yr e-bost, dechreuwch gyda “Grant Gwaith Brys ALl”, yna enw’r ALl ac yna enw’r Eiddo.