Skip to main content
Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw. Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw. Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw.

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Mae GWREIDDIAU yn dod i Fryn Celli Ddu ar 22 Mehefin 2024, i ddathlu pen-blwydd y prosiect yn 10 mlwydd oed, trwy lên gwerin, gorymdaith a pherfformiad.

Yn cael ei hadnabod fel un o’r safleoedd archeolegol mwyaf hydolus ym Mhrydain, adeiladwyd yr heneb 5,000-mlwydd-oed unwaith i warchod a thalu parch at weddillion y cyndeidiau.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys:

  • Panel sgwrsio gyda Stone Club, Dr Ffion Reynolds a Phrif Dderwydd Ynys Môn, Kristoffer Hughes.
  • Perfformiad cyntaf erioed gan Ancient Music Ireland o replica offerynnau Llyn Cerrig Bach
  • Gorymdaith Gymunedol wedi’i hysbrydoli gan lên gwerin a’r dirwedd. Gweithdai wedi’u hwyluso gan yr artistiaid Manon Prysor, Dominique Fester ac Anna Vigurs
  • Perfformiad theatr ddefodol gan Clare Parry-Jones
  • Cyfleoedd i ymweld â'r ffos cloddio archeolegol bresennol
  • Archwiliwch y safle a darganfyddwch ffigurynau swyn ein hynafiaid

Mae’r digwyddiad yn gydweithrediad rhwng Cadw, Think Creatively, Cyngor Celfyddydau Cymru, Môn CF, Galeri Caernarfon, Oriel Môn, Phrifysgol Fetropolitan Manceinion a Geo Môn.

Archebwch eich tocynnau ar-lein ymlaen llaw (ni ellir ad-dalu tocynnau a brynwyd).
Archebwch docyn i bob aelod o’ch parti. 
Sylwch fod tocynnau ar gael ar-lein yn unig. Ni fydd tocynnau ar gael wrth y drws.

Mae Bryn Celli Ddu yn sefyllfa ar dir fferm gwledig ac mae’r digwyddiad yn agored i’r elfennau. Gwisgwch eisgidiau call, a dillad i’w defnyddio yn yr awyr agored.

Drysau’n agor:                     4.00pm
Digwyddiad yn dechrau:   4.30pm
Digwyddiad yn dod i ben: 7.30pm

Darperir parcio am ddim ar fferm Bryn Celli Ddu. Dilynwch yr arwyddion i’r gofeb a dilynwch gyfarwyddiadau ein stiward. Côd post SAT NAV: LL61 6EQ

Mynediad Corfforol i Bryn Celli Ddu:
Cyrhaeddwch yn syth i Bryn Celli Ddu o 4.00pm. Bydd lluniaeth ar gael. Croeso i gadeiriau gwersylla a blancedi.

Mae maes parcio Bryn Celli Ddu ar ochr y ffordd i bentref Llanddaniel Fab. Sylwch yn gyntaf y bydd angen ichi groesi ffordd o’r maes parcio i fynedfa’r heneb. Mae’r fynedfa i’r safle i lawr ramp ac ar hyd llwybr a thrwy giât i mewn i’r gofod heneb.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i GWREIDDIAU!


Prisiau

Am Ddim
I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Beddrod Siambr Bryn Celli Ddu