Arglwydd Rhys a’i fynachod ffyddlon
Nid Arglwydd Rhys, llywodraethwr teyrnas y Deheubarth, oedd sylfaenydd swyddogol Ystrad Fflur. Norman oedd hwnnw, o’r enw Robert fitz Stephen. Ond cymerodd ‘Rhys Fawr’ y lle i’w galon a’i roi ar y map.
Rhoes i’r mynachod ddarnau helaeth o dir lle gallent ffermio eu defaid a’u gwartheg – ac yn gyfnewid cafodd ef eu ffyddlondeb hwy. O dan ei nawdd, magodd Ystrad Fflur gryn arwyddocâd crefyddol a bu’n grud i ddiwylliant Cymru.
Nid damwain oedd hi fod abadau Ystrad Fflur mor Gymreig â’r tir a ffermient. O dan Deiniol, Cedifor, Morgan ap Rhys a Dafydd ap Owain a’u tebyg, byddai’r mynachod prysur yn ysgrifennu neu’n copïo rhai o destunau Cymraeg canolog y dydd.
Roedd y rhain yn cynnwys hanes cyntaf Cymru yn y Gymraeg – ‘Brut y Tywysogion’ – a rhai o chwedlau’r Mabinogi.
Felly pan benderfynodd Llywelyn ap Iorwerth alw holl dywysogion Cymru i dalu llw teyrngarwch i’w fab Dafydd ym 1238, ni fu’n rhaid iddo feddwl yn hir am leoliad addas. Ystrad Fflur, ceidwad diwylliant Cymru, oedd y dewis amlwg.
Ond daeth hyn oll am bris – gelyniaeth coron Lloegr. Difrodwyd y lle gan ryfeloedd Brenin Edward I, fe’i gwanhawyd gan y Pla Du ac fe’i meddiannwyd gan fyddinoedd Lloegr yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr.
Roedd anterth Ystrad Fflur wedi hen fynd erbyn i Harri VIII ddiddymu’r mynachlogydd. Fe’i datgysylltwyd yn rhannol ym 1539, gan ddechrau â 10 tunnell o blwm o’r toeau, a gadawyd iddo adfeilio’n raddol.
Dyna sut oedd hi nes 1887 pan ddechreuodd yr archeolegydd Stephen Williams gloddio’r safle. Roedd y trysorau cudd a ddatgelodd mor boblogaidd ymhlith twristiaid Fictoraidd nes ailenwi gorsaf drenau Ystradmeurig yn Ystrad Fflur.
Mae gan yr abaty le arbennig o hyd yng nghalonnau’r Cymry. Dywed un fenyw sy’n byw’n lleol iddi symud i’r ardal am ei bod wedi gwirioni ar y gerdd ‘Ystrad Fflur’ gan Hedd Wyn, a fu farw ym 1917 cyn y gallai hawlio’r gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol.