Skip to main content

Roedd llengfilwyr Isca yn dod yn wreiddiol o ogledd yr Eidal, Provence a de Sbaen. Hyd yn oed yn oerfel Cymru, ym mhen draw’r ymerodraeth Rufeinig, buasent yn disgwyl rhai cysuron cartref. 

Nid oedd baddonau’r gaer yn siomi. Roeddent yn gyfuniad o ganolfan hamdden fodern ac encilfa sba. Ar ôl ymdrochi, gallai’r llengfilwyr chwarae gemau pêl neu hapchwarae, cwrdd â ffrindiau, ymweld â thylinwr corff neu hyd yn oed brynu crwst neu hwyaden rost.

Eisteddai pwll nofio neu natatio awyr agored hir a chul, a thŷ ffynnon yn un pen, wrth ymyl adeilad y baddonau ei hun – sef tair neuadd gromennog urddasol ar yr un raddfa epig â chadeirlan ganoloesol.   

Byddai milwr yn dod i’r baddonau, yn dadwisgo, yn rhoi ei ddillad i un o gaethweision y baddondy ac yn mynd drwodd i’r frigidarium neu ystafell y baddon oer. Ar ôl ymdrochi yn y dŵr oer, byddai’n eneinio ei gorff ag olewau ac yna’n ymweld ag ystafelloedd y baddon cynnes a phoeth yn eu tro.  

Gan ymhyfrydu yng ngwres y ffwrneisi llosgi pren, byddai’n crafu’r olew a’r chwys oddi ar ei gorff ag offeryn metel o’r enw crafell. Ac i goroni’r cyfan, byddai’n plymio unwaith eto i’r dŵr oer ac efallai’n mynd i’r tŷ bach.    

Dim profiad i ddynion yn unig oedd hwn yn llwyr. Defnyddiai menywod a phlant bach hefyd faddonau Caerllion, ond nid ar yr un pryd a’r milwyr. Roedd ymerawdwyr Rhufeinig yn gwgu’n swyddogol ar ymdrochi cymysg.

Yn aml, gwisgai’r ymdrochwyr eu modrwyon a’u gemwaith arall – am nad oedd mân-ladrata o’r cypyrddau’n anghyffredin. Mae hyn yn egluro’r casgliad anhygoel o 88 o emfeini ysgythredig a achubwyd o ddraen y baddondy, sydd oll yn cael eu harddangos yn yr amgueddfa.