Skip to main content

Gallai fod yn beryglus pan gâi’r Fictoriaid syniad yn eu pennau. Yn y 1840au, dechreuwyd ymgyrch uchelgeisiol dros ben i ailadeiladu eglwysi plwyf Cymru a Lloegr.   

Y cynllun mawr oedd adfer eu cymeriad canoloesol gwreiddiol – ond aeth y cyfan dros ben llestri braidd. Ledled Cymru a Lloegr, aeth selogion gorawchus ati i rwygo dodrefn allan o’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif. Yn eironig, cawsant wared hyd yn oed ar rai nodweddion canoloesol go iawn.

Felly Capel y Rug, gyda’i oriel, ei arwynebau yn eu paent addurnol a’r corau canopi addurnol, yw un o’r lleoedd prin yng Nghymru lle gallwch weld o hyd sut byddai pobl yn addoli yn y canrifoedd cyn i’r Fictoriaid ymyrryd.