Hanes y marchog
Mae yna ddrysau – ac yna mae drysau cadarn y castell yng Nghas-gwent. Roedd y drysau cwbl eithriadol hyn, sydd yma o hyd, yn hollol chwyldroadol yn eu hoes.
Roedd arnynt haenellau haearn i atal ymosodwyr rhag eu llosgi neu guro i lawr. Ar y tu cefn, roedd fframwaith dellt coeth yn cynnwys yr uniadau mortais a thyno cynharaf y gwyddys amdanynt ym Mhrydain.
Credwyd ar un adeg fod y drysau’n dyddio o’r 13eg ganrif. Ond yn sgil gwyddor dendrocronoleg, neu ddyddio blwyddgylchoedd, gwyddom bellach eu bod wedi’u hadeiladu erbyn y 1190au fan pellaf. Golyga hynny mai hwythau yw’r drysau castell hynaf yn Ewrop.
Peidiwch â gadael i’r union atgynhyrchiadau sy’n hongian bellach yn y porthdy eich twyllo. Arddangosir y rhai gwreiddiol y tu mewn i’r castell, yn ddiogel o’r diwedd rhag y tywydd.
Gwaith llaw William Marshal oeddent, un o ddynion hynotaf yr oes. A dim ond ceffyl ac arfwisg yn eiddo iddo, dechreuodd y llanc o farchog crwydrol wneud enw da iddo’i hun yn filwr ac yn frwydrwr mewn twrnameintiau milwrol.
Ni fu’n hir cyn iddo ddenu noddwyr brenhinol – yn gyntaf, Elinor o Acwitania ac yna ei mab hynaf y Tywysog Henry. Erbyn hyn, roedd yn ddigon pwerus i godi ei faner ei hun (hanner gwyrdd, hanner aur gyda llew dywal coch) ac roedd ganddo ei griw ei hun o farchogion.
Pan oedd Henry yn marw ym 1183 gorchmynnodd i’r ffyddlon Marshal fynd â’i glogyn i’r Beddrod Sanctaidd yn Jerwsalem. Pan ddychwelodd o’r Wlad Sanctaidd ym 1186, ymunodd Marshal â theulu milwrol Brenin Harri II a bu’n ymladd yn gyson yn Ffrainc.
Mab Harri, Rhisiart Llewgalon, a wobrwyodd ffyddlondeb Marshal drwy roi iddo Isabel, aeres gyfoethog de Clare, yn wraig. Yn y man hwn y mae stori bywyd anhygoel William Marshal a hanes Castell Cas-gwent yn cydblethu o’r diwedd.
Bu Cas-gwent ac ystadau helaeth eraill ym meddiant teulu Isabel am y rhan fwyaf o’r 12fed ganrif. Bellach, roedd trawsnewidiad Marshal o fod yn farchog tlawd ond mawrfrydig yn gyflawn. Ef oedd un o’r dynion cyfoethocaf yn y deyrnas.
Ond roedd un broblem fawr – prin y cyffyrddwyd â’r castell ers 100 mlynedd. Ond Marshal oedd yr union ddyn i ddiweddaru’r lle, ac yntau’n fedrus yn y technegau milwrol diweddaraf.
A dweud y gwir, dechreuodd chwyldro. Adeiladodd y porthdy cyntaf un â dau dŵr ym Mhrydain, wedi’i warchod gan y drysau grymus hynny. A dim ond megis cychwyn arni oedd hynny.
Adeiladodd ail linell amddiffyn, cododd uchder y waliau Normanaidd a chododd dŵr petryalog enfawr a elwir erbyn hyn, wrth reswm, Tŵr Marshal. Trodd hen gastell blinedig yn gadarnle arswydus ond addas o gyffyrddus.
Wedi’r cyfan, roedd hwn yn gartref i’r dyn ei hun. Roedd Marshal ymhlith y rhai a adawyd yn gyfrifol am y wlad pan aeth Rhisiart Llewgalon ar groesgad ym 1190. Ef a gyd-drafododd y Magna Carta ar ran Brenin John ac fe reolodd yn rhaglyw Lloegr i’r ifanc Frenin Harri III tan ei farwolaeth ym 1219.
Roedd ei fywyd yn eithriadol. Diogelir ei gymynrodd yng ngherrig castell sydd yr un mor eithriadol, sy’n sefyll uwchben Afon Gwy yn y porth allweddol hwn i Gymru.