Elen o Droea Cymru
Efallai mai’r cymeriad mwyaf symbylol yn hanes maith Cilgerran yw’r dywysoges enwog o brydferth o Gymru o’r enw Nest. Ond, yn y dyddiau hynny, ni fodolai Cilgerran eto.
Nest oedd merch Rhys ap Tewdwr, a arferai reoli de Cymru. Roedd hi’n dipyn o gaffaeliad i’w gŵr Normanaidd, Gerald de Windsor, a adeiladodd gastell ysblennydd o’r enw Cenarth Bychan i’w chadw’n ddiogel. Mae haneswyr yn amau iddo fod ar y cadarnle gwreiddiol ar y safle a fyddai’n datblygu i fod yn Gilgerran.
Ym 1109 cafodd Nest ei herwgydio, heb fod yn gwbl anfodlon efallai, gan ei hail gefnder Owain ap Cadwgan, a ymosododd ar waliau’r castell â chwmni o 14 o ddynion ac a losgodd yr adeiladau pren. Bu’n rhaid i’w gŵr Gerald ddianc drwy’r tŷ bach, er mawr cywilydd iddo.
Nid hon oedd unig antur serchog Nest. Daeth hi’n feistres ar nifer o ddynion pwerus, ac yn eu plith Brenin Harri I, gan fagu iddi ei hun y llysenw ‘Elen o Gymru’ ar ôl yr hudoles Elen o Droea yn Iliad Homer.
Dioddefodd Cilgerran ddifrod mawr dros ganrifoedd o wrthdaro rhwng y Normaniaid a thywysogion Cymru. Erbyn diwedd y 18fed ganrif, roedd yn adfail Rhamantaidd wedi’i beintio gan JMW Turner a Richard Wilson a’u tebyg. Ond nid oedd dim yn rhamantaidd am ei ddirywiad parhaus. Nid oedd llawer iawn o artistiaid yn dal i alw heibio erbyn 1909, a’r castell yn cael ei ddefnyddio’n doiled cyhoeddus a chlwyd ieir.
Erbyn hyn gallwch unwaith eto fwynhau mawredd safle Cilgerran fry uwchben Afon Teifi - a dychmygu sut fywyd fyddai gan dywysoges o Gymru 900 o flynyddoedd yn ôl.