Breuddwyd i ddau
Etifeddodd trydydd Ardalydd Bute ystâd helaeth ei deulu pan oedd yn faban ac, erbyn iddo adael Rhydychen, soniwyd mai ef oedd y dyn cyfoethocaf yn y byd. Heb sôn am un o ddarpar ŵyr gorau Prydain.
Ni allai’r pensaer a’r dylunydd William Burges gystadlu â’r cyfoeth hwn ond roedd yn ddigon cyffyrddus – ac yntau’n fab i beiriannydd sifil llwyddiannus iawn, a’i gwmni’n enwog am adeiladu’r arglawdd yn San Steffan.
Roedd y ddau ddyn, a gyfarfu ym 1865, yn wahanol iawn. Roedd Bute yn ddifrifol a meudwyaidd, a Burges yn llawn mynd ac yn gymdeithasol. Ond roeddent yn rhannu cryn frwdfrydedd dros bensaernïaeth a chelf ganoloesol.
Mae’n siŵr bod gan gyfoeth helaeth yr ardalydd ran i’w chwarae hefyd. O fewn blwyddyn o’u cyfarfod cyntaf, roedd Burges wedi llunio adroddiad yn egluro sut y gellid gwella Castell Caerdydd â thŵr a gardd ffos wedi’i datgloddio.
I Burges hwn oedd comisiwn ei oes – y cyfle i ryddhau ei athrylith ar brosiect eang i’r pendefig cyfoethocaf ym Mhrydain. Dechreuodd y gwaith y funud y cyrhaeddodd yr ardalydd ei lawn oed ym 1868.
Dim ond dair blynedd yn ddiweddarach, trodd Burges ei sylw at Gastell Coch. Awgrymodd ddau gam posibl ymlaen. Yn gyntaf – gadael yr adfeilion fel ag yr oeddent. Ac yn ail – eu hadfer i fod yn breswylfa wledig i fyw ynddi’n achlysurol yn ystod yr haf.
Roedd yn sicr o ddigwydd. Roedd yn obsesiwn gan yr ardalydd. Aeth Burges ati i greu ffantasi canoloesol mawreddog a adeiladwyd ar sail dau dŵr mawr a neuadd urddasol caer Gilbert de Clare o’r 13eg ganrif.
Ailadeiladodd y porthdy, cododd uchder y tyrau a rhoes iddynt doeau conigol gyda cheiliogod gwynt gilt-copr ar eu pennau. Gosododd rodfa ben mur a galeri ymladd o bren.
Ond roedd yr ailgread dilys hwn yn dal i gynnwys pob cyfleustra modern, gan gynnwys gwres canolog.
Roedd hyd yn oed llinyn cloch metel i ymwelwyr ei dynnu – nid rhywbeth y buasai’r rhyfelgar Gilbert de Clare yn ei adnabod.
Pan fu farw Burges yn sydyn ym 1881, dim ond y neuadd wledda oedd wedi’i haddurno a’i dodrefnu’n llawn. Gadawyd y gwaith i griw o grefftwyr gwblhau’r ystafelloedd mwyaf goludog, gan gynnwys yr ystafell groeso gromennog anhygoel.
Yn raddol, disodlwyd steil Adfywiad Gothig Burges â phortreadau cnawdol o’r byd naturiol, dan ddylanwad y Mudiad Esthetig a oedd bellach yn boblogaidd. Nid oedd bob amser at ddant yr ardalydd. Mewn gwirionedd, bu’n achwyn bod y mwncïod wedi’u peintio yn prancio uwchben gwely ei wraig yn rhy ‘nwydwyllt’.
Ond efallai bod yr hwyl wedi gadael y prosiect pan fu farw William Burges. Nid oes cofnod ohono’n aros yng Nghastell Coch ar ôl 1881 ac ni orffennwyd rhai o’r ystafelloedd byth.
Yn raddol, aeth yn segur a chafodd ei atafael i filwyr Prydeinig ac Americanaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd – un o farics mwyaf afradlon y byd, mae’n siŵr. Ers hynny, mae wedi cael ail wynt yn drysor cenedlaethol annwyl iawn, yn seren y byd ffilm a theledu ac yn lleoliad priodasau poblogaidd iawn. Daw dros 60 o barau bob blwyddyn i briodi yng nghanol delweddaeth wych yr ystafell groeso.