Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.
Gwybodaeth am gwcisRydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:
Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:
Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.
Diogelwch safleoedd hanesyddol Cymru ar ran rhywun annwyl y Nadolig hwn. Dewiswch 'Anrheg' ar ôl dewis eich aelodaeth; cewch 10% i ffwrdd gyda'r cod hwn: NADOLIGCADW10 - Ymunwch
Talacharn
Mae hanes Talacharn yn ymestyn yn ôl dros naw canrif. Pan godwyd y gaer yn 1116, roedd yn rhan o gadwyn o gestyll arfordirol Normanaidd a ymestynnai o Gas-gwent yn y dwyrain i Benfro yn y gorllewin. Ond nid oedd fyth yn ddiogel rhag ymosodiad o du’r penaethiaid Cymreig.
Cipiwyd y gaer gloddwaith wreiddiol gan yr Arglwydd Rhys, a gyhoeddodd ei hun yn 'wir dywysog de Cymru', yn 1189 ac eto gan y Tywysog Llywelyn ap Iorwerth ym 1215. Hyd yn oed ar ôl i'r teulu de Brian adeiladu'r castell cerrig garw welwn ni heddiw yng nghanol y 13eg ganrif cafodd y gaer ei difrodi gan y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd.
Dros dro y bu ei achubiaeth adeg y Tuduriaid. Ar ôl gwarchae wythnos o hyd gan luoedd Seneddol yn ystod y Rhyfel Cartref, cipiwyd castell Talacharn am y tro olaf a’i ddatgymalu’n rhannol – ac ni fu neb yn byw yma ers hynny.