Cwymp llinach Duduraidd
Ochrodd y milwr o Gymru, Rhys ap Thomas, gyda’r blaid gywir ym Mrwydr Bosworth pan drefnodd bod ei fyddin o 2,000 o ddynion ar gael i wasanaethu Harri Tudur, a ddaeth yn fuan yn Harri VII.
Ei wobr oedd cael ei urddo’n farchog a chael enw da fel un o ddynion llawn addewid y llys Tuduraidd. Trosglwyddwyd Weble i'r Syr Rhys pwerus hwn ar ddiwedd y 15fed ganrif. Er mai yng Nghastell Caeriw gerllaw yr oedd ei brif sedd, llwyddodd i neilltuo amser i uwchraddio’i faenordy ger y gwastadeddau llaid.
Yn benodol, ychwanegodd y bloc porth deulawr er mwyn creu mynedfa fwy urddasol i'r neuadd a'r ystafelloedd preifat. Roedd ei safle urddasol mewn cymdeithas yn mynnu dim llai na hynny.
Ond dros dro yn unig y parodd dylanwad y teulu. Cafodd ei ŵyr, Rhys ap Gruffudd, ei ddienyddio am fradwriaeth yn ystod teyrnasiad Harri VIII a dychwelodd y castell i afael y Goron.