Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Roedd Castell y Bere yn leoliad anghysbell yng nghyffindir ddeheuol Llywelyn, ond roedd e’n safle hollbwysig ar gyfer amddiffyniad. Byddai’n amddiffyn ardal y gwartheg a’r famwlad yng Ngwynedd, ac roedd e’n tra-arglwyddiaethu ar arglwyddiaeth Meirionydd.

Llywelyn ab Iorwerth oedd y tywysog; ond y gwaretheg oedd y brenhinoedd! Yn y Gymru ganoloesol roedd gwaretheg mor werthfawr ag y mae arian inni heddiw. Roedd y lleoliad hwn mor bwysig nes yr oedd Llywelyn yn barod i gymryd y safle oddi ar ei fab ei hun, Gruffudd, yn 1221 er mwyn adeiladu’r castell.

Wedi i Llywelyn farw, parhaodd ei olynwyr i’w ddefnyddio. Fe’i cymerwyd gan Frenin Lloegr, Edward I, yn 1283. Fe wnaeth e newidiadau i’r castell gan obeithio y byddai cyffindir tref Seisnig yn datblygu o’i amgylch. Ni ddigwyddodd hyn. Gadawodd y Saeson y safle yn ystod eu gwrthryfel yn erbyn y llywodraeth yn 1294.

Heddiw, mae Castell y Bere yr un mor wyllt ac anghysbell ag yr oedd pan gyrhaeddodd Llywelyn yno gyntaf. Ymestynna ar hyd gopaon creigiog ochr ddwyreiniol cwm Dysynni. Mae’n anodd credu fod y lleoliad anghysbell a phrydferth hwn, unwaith wedi rheoli llwybr pwysig a redai i’r gogledd o arfordir Tywyn tua Dolgellau gan amddiffyn ffin ddehueol Gwynedd.

Mae nodweddion arbennig Castell y Bere yn cynnwys cromfa Gymreig — neu cynllun siâp D hirgul o dŵr y de. Gellir cymharu graddfa’r castell hwn â chestyll Cymreig eraill tebyg eu cynllun, megis Ewloe a Charndochan.

Yn ogystal, mae’r fynedfa uchel a chain wedi’i chreu yn arbennig ar gyfer amddiffyn, yn nodwedd anarferol o gastell Cymreig yn 1220au. Wrth ei ymyl hefyd mae ffosydd a gatiau tŵr gyda phontydd codi a phorthcwlis mwy na thebyg. Ni ellir cymharu’r fynedfa soffisdigedig hon â’r un gastell Cymreig arall. Yn wir, hyd yn oed mewn cymhariaeth â safonau caeriau Lloegr, byddai mynedfa dechnolegol o’r fath wedi bod o flaen ei amser yn y 1220au cynnar.