Skip to main content

Mae Parc le Breos Cwm ym Mhenrhyn Gŵyr yn rhan o feddrod ar siâp siambr Neolithig sydd wedi ei adfer yn rhannol, a nodwyd ym 1937 fel math Hafren-Cotswold o garnedd hir ag iddo siambrau. Adeiladwyd y gromlech, sef siambr gladdu fegalithig, tua 6000 o flynyddoedd yn ôl, yn ystod yr oes Neolithig gynnar. Mae tua saith milltir i’r gorllewin de-orllewin o Abertawe, mewn man sy’n cael ei adnabod bellach fel Coed y Parc Cwm ar Benrhyn Gŵyr.

Beddrod siâp trapesoid sydd yma - gyda rhan uchaf y gromlech a’i orchudd o ddaear bellach wedi eu symud - gyda wal o gerrig sychion isel o’i amgylch. Mae blaengwrt, siâp cloch, sy’n wynebu tua’r de, sydd wedi ei greu gan y wal, yn arwain tuag at gyntedd canolog wedi’i leinio a cherrig mawr calchfaen sydd wedi eu gosod i sefyll i fyny. Roedd gweddillion dynol wedi eu gosod yn y ddau bâr o siambrau carreg sy’n arwain i’r cyntedd. Mae’n bosib bod y cyrff wedi eu gosod mewn ogofeydd cyfagos tan i’r cyrff ddadelfennu, ac yna i’r esgyrn gael eu symud i’r beddrod.

Darganfuwyd y gromlech ym 1869 gan weithwyr a oedd yn cloddio am gerrig ffordd. Yn ystod gwaith cloddio yn ddiweddarach y flwyddyn honno, darganfuwyd esgyrn dynol (y gwyddom bellach eu bod wedi perthyn i o leiaf 40 o bobl), olion anifeiliaid a chrochenwaith Neolithig. Mae samplau o’r safle yn dangos i’r beddrod gael ei ddefnyddio am rhwng 300 ac 800 o flynyddoedd. Newidiodd bywyd yng Ngogledd-orllewin Ewrop tua 6000 o flynyddoedd yn ôl, gyda bywyd teithiol yr heliwr yn cael ei ddisodli gan fywyd amaethu sefydlog.

Mae’r beddrod ar siâp siambr yn gorwedd mewn rhan o gyn-barcdir ceirw canoloesol, a sefydlwyd yn y 1220au gan Arglwydd y Gororau Gŵyr fel Parc le Breos - ardal gaeedig o tua 2000 o erwau sydd bellach yn dir fferm yn bennaf. Mae’r heneb ar lawr ceunant calchfaen cul sych, sy’n cynnwys tua 500 erw o goetir.