Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Rhaglen Grant Cyfalaf Adeiladau Hanesyddol

Mae'r Rhaglen Grant Cyfalaf Adeiladau Hanesyddol yn grant newydd a ariennir gan Cadw sy'n canolbwyntio ar atgyweirio adeiladau rhestredig sydd mewn perygl neu mewn cyflwr bregus; er mwyn diogelu eu harwyddocâd, gwella eu cyflwr, cefnogi defnydd buddiol a sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a’u cadw yn y tymor hir.

Gall y Rhaglen Grant Cyfalaf Adeiladau Hanesyddol ariannu 50% o waith cymwys (hyd at uchafswm o £250,000) a'i nod yw buddsoddi cyfalaf hanfodol mewn treftadaeth sydd mewn perygl i helpu perchnogion a cheidwaid i ddiogelu am adeiladau rhestredig sydd mewn perygl i'r dyfodol er budd y gymuned ehangach.

Bydd y cynllun yn gweithredu proses ymgeisio dau gam:

Cam 1: Gwahoddiad i gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb (EOI)

Cam 2: Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus baratoi a chyflwyno cais llawn

Rhaid i geisiadau ail gam fod yn gyson â'r cynigion a amlinellir yn y Datganiad o Ddiddordeb cymeradwy.

Bydd camau 1 a 2 yn gystadleuol ac nid yw Datganiad o Ddiddordeb llwyddiannus yn gwarantu cyllid yng Nghyfnod 2.

Dyma amserlen y cynllun grant:

Cam 1 Datganiadau o Ddiddordeb (EOI) erbyn: 23 Rhagfyr 2022

Cam 1 Penderfyniadau Datganiadau o Ddiddordeb Cyhoeddir erbyn: 10 Chwefror 2023

Darllenwch ein gwybodaeth a chanllawiau pellach ynghylch gwneud cais am Grant Cyfalaf Adeiladau Hanesyddol  Cadw

Ffurflen Mynegi Diddordeb