Stori Connie
A hithau wedi ei geni a’i magu yng Ngwlad y Gân, daeth Connie Fisher yn enwog ar ôl ennill un o sioeau talent y BBC How Do You Solve a Problem Like Maria? Bellach, mae’n gyflwynydd a chynhyrchydd uchel ei pharch ac mae’n siarad gyda ni am ei hoff fannau hanesyddol yng Nghymru.
Pa un yw eich hoff safle Cadw a pham?
Dw i wedi perfformio yng Nghastell Caerffili sawl tro gyda Proms y BBC a dw i’n cael fy nghyfareddu gan y lle. Mae’n fan eithriadol.
Beth yw’r peth gorau am y safle?
Wrth i chi yrru heibio yn y nos, mae’n teimlo fel lle hud a lledrith. Mae’r ffos yn arbennig o ryfeddol — dw i wedi pasio sawl tro a gweld adlewyrchiad y lleuad yn y dŵr ac mae’n wirioneddol wych.
Rydych wedi bod yn rhan o lawer o gynyrchiadau llwyfan tros y blynyddoedd ond pa un o safleoedd Cadw fyddech chi’n ei ddewis ar gyfer perfformiad yn yr awyr iach?
Dw i’n caru Castell Caerffili ond, pe bawn i am wneud sioe arall, fydden i wrth fy modd yn perfformio yn Abaty Tyndyrn. Er fy mod i’n cyflwyno Songs of Praise i’r BBC, dw i ddim wedi bod yn ddigon lwcus i ffilmio yn Nhyndyrn — mae’n adeilad trawiadol y gallwn i edrych arno am oriau — felly dw i’n dal i obeithio am y gwahoddiad!
Pa rai eraill o safleoedd Cadw yr ydych yn gobeithio ymweld â nhw yn fuan?
Castell Oxwich. Fydda’ i’n ymweld â Phenrhyn Gŵyr am wyliau byr bob haf ond dw i ddim wedi ymweld erioed â’r castell urddasol yma, er ei fod yn agos iawn at ble’r ydyn ni’n aros. Yr haf yma, fe wna’ i ei roi ar frig y rhestr.
Beth sydd gyda chi ar y gweill yn 2018?
Darllenwch am encil Wynne ger y dŵr
Dysgu rhagor...Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol
Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw
- 10% oddi ar siopau Cadw
- 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
- Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
- Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
- Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn