Stori Griff
Yn ogystal â bod yn ddigrifwr, actor, cyflwynydd ac awdur enwog, mae Griff Rhys Jones yn enwog am ei deithiau epig o amgylch Cymru. Yma, mae’n sôn am chwedlau mytholegol a thrysorau hanesyddol cudd sydd gan Cadw...
Pa un yw eich hoff safle Cadw a pham?Dw i’n caru Pentre Ifan uwchben Trefdraeth yn Sir Benfro. Lle llawn awyrgylch a dirgelwch, bregus ei gydbwysedd, mae sefyll yn y cysgod yna’n ddigon i godi cwestiynau am ein gorffennol dwfn, a fyddwn ni fyth yn gallu ateb llawer o’r rheiny.
Rydych wedi ysgrifennu, cynhyrchu a serennu mewn rhes o gynyrchiadau llwyddiannus ym maes teledu, ffilm a llwyfan. Petaech chi’n gallu dewis un o safleoedd Cadw i osod stori ynddo, pa un fyddech chi’n ei ddewis a pham? Yn rhyfedd iawn, dw i eisoes wedi ffilmio yng Nghonwy a’r cyffiniau ond heb fod ym Mhlas Mawr. Trueni. Fe edrychais i mewn a dyheu am dreiddio ymhellach. Dw i’n hoff o lefydd sy’n fyw gymaint ag adfeilion a dw i’n caru celfi. Mae yna straeon gwych am gyfoeth a llwyddiant Cymreig yn y lle yna.
Pa un o safleoedd Cadw y byddech chi fwyaf hoff o ymweld ag ef?
Dw i wedi bod mewn llawer iawn ond mae’n amser maith ers i fy mam fedydd fynd â fi yn fachgen i Castell Coch. Mae’n bryd mynd eto.
Yn 2017, roedden ni’n dathlu Blwyddyn y Chwedlau. A oes yna chwedlau Cymreig sydd wedi cydio yn eich dychymyg wrth deithio?Roedd yna chwedl fod y Greal Sanctaidd wedi cyrraedd plasty ger Aberystwyth. Fe es i ar ei dywydd unwaith a sylweddoli ei fod wedi mynd pan drowyd y lle yn westy. Oedd rhaid bodloni ar edrych ar ffotograff o’r hyn oedd, fwy na thebyg, yn gwpan yfed hen iawn o Ystrad Fflur pan oedd honno’n abaty fyw. Ond roedd y chwilio’i hun wedi rhoi teimlad Arthuraidd i fi.
Pa gynlluniau cyffrous sydd gyda chi ar y gweill yn 2018? Dw i’n teithio gyda fy ail sioe un-dyn, Where was I? — am fy nheithiau teledu. Mae’n dechrau yn y gwanwyn.
Darllenwch am hoff berfformiad Connie Fisher
Dysgu rhagor...Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol
Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw
- 10% oddi ar siopau Cadw
- 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
- Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
- Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
- Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn