Skip to main content

Mae’r actores o’r Cymoedd, Kimberley Nixon, a raddiodd o Goleg Brenhinol

Cerdd a Drama Cymru, wedi serennu mewn rhes o gyfresi teledu a ffilmiau

drud, gan weithio gyda Colin Firth, Eddie Redmayne a’u tebyg. Fe fuon ni’n

holi’r ferch o Bontypridd am ei hoff safle a pha un o gestyll Cadw a fyd dai’n

lleoliad perffaith ar gyfer ffilm...

Pa un yw eich hoff safle Cadw a pham mae’n arbennig i chi?

Fy hoff safle Cadw yw Castell Coch. Mae’n agos at fy nghartref ac ro’n i’n arfer mynd yno ar dripiau ysgol.

Beth yw’r peth gorau amdano?

Mae’n anarferol ac yn wahanol i bob castell arall, gyda’i ddelwedd tylwyth teg. Mae’r toeon pigfain, y tyrau crwn a’r coed o’i gwmpas yn rhoi teimlad hudol iddo. Mae’r coedydd

o’i amgylch a Fforest Fawr yn lleoedd gwych i fynd am dro gyda fy nghi.

R’ych chi wedi serennu mewn llawer o gyfresi teledu a ffilmiau mawr. Pe bach chi’n gorfod dewis un o safleoedd Cadw i fod yn lleoliad ffilm perffaith, pa un fyddai hwnnw a pham?

Fyddwn i wrth fy modd yn ffilmio yng Nghastell Caerffili. Mae’n safle anferth. Wnes i ei astudio ar gyfer TGAU Hanes felly rwy’n ei nabod yn eitha’ da. Rwy’n hoffi’r ffaith ei fod reit yng nghanol y dre’. Fe allai fod yn sét ffantastig ar gyfer popeth, o ddrama gyfnod i stori lofruddiaeth gyfoes fygythiol!

Pa rai eraill o safleoedd Cadw yr ydych yn gobeithio eu gweld yn fuan?

Dw i ddim wedi bod ym Mharc Cenedlaethol Eryri eto a byddwn wrth fy modd yn mynd i weld Castell Cricieth; mae gyda fi lwyth o ffrindiau lan ‘na ac mae’n edrych yn hardd.

Beth sydd o’ch blaen yn 2017?

Mae 2017 yn gymharol rydd. Mae wastad yn gyffrous peidio â gwybod beth sy’n dod nesa’. Mae sgriptiau’n dod i mewn ac mae angen paratoi a d’ych chi ddim yn gwybod pwy fydd eich cydweithwyr am y mis neu ddau nesa’. Dw i hefyd wedi bod yn mwynhau gwneud llawer o waith radio, sy’n gyfrwng llawn hwyl.

Darllenwch am hoff safle Griff Rhys Jones

Dysgu rhagor...

Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru

Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol

Ymunwch â Cadw heddiw

Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw

  • 10% oddi ar siopau Cadw 
  • 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
  • Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
  • Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage 
  • Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn