Stori Matt
Yn sicr, cafodd Blwyddyn Antur ei dathlu yn safleoedd Cadw, pan dorrodd draig anferth o Gastell Caerffili Ddydd Gwˆ yl Dewi a hedfan i safleoedd ledled Cymru tros yr haf. Dyma sgwrs gyda Matt Wild o Wild Creations, y cwmni a greodd y creadur chwedlonol...
Pa un yw eich ffefryn o blith safleoedd Cadw? Castell Caerffili.
Beth yw’r peth gorau amdano? Dw i’n hoffi anferthedd y castell canoloesol yma sydd wedi gwrthsefyll y canrifoedd ac sy’n olygfa eiconig yng Nghymru.
A gawsoch chi eich synnu gan yr ymateb i’r ddraig? Mae wastad yn braf bod ein creadigaethau’n cael eu gwerthfawrogi ond roedd y storm gyhoeddus ac yn y cyfryngau y tu hwnt i ddisgwyliadau neb. Roedd y gefnogaeth gyhoeddus i’r ddraig a’r sylw ar y cyfryngau cymdeithasol yn anhygoel.
A oedd yna sialensiau wrth greu’r ddraig a theithio gyda hi? Yn eironig, yr her fwya’ oedd cael y ddraig i mewn i gestyll caerog. Roedd hi’n dipyn o dasg gwasgu draig i le cyfyng a godwyd i rwystro ymosodiadau.
Yn eich barn chi, pa mor bwysig yw ein henebion i Gymru’n gyffredinol? Mae’r henebion hyn yn bwysig iawn, nid yn unig o safbwynt hanesyddol ond hefyd o safbwynt economaidd. Mae hanes cyfoethog Cymru yn ein dysgu ni am y cyfnodau a’r cymdeithasau gwahanol y daethon ni ohonyn nhw ac na fydden ni’n gwybod dim amdanyn nhw fel arall. Ein hanes sy’n gwneud Cymru’n unigryw a dyna’r rheswm pam fod cymaint o bobl yn ymweld bob blwyddyn gan roi hwb sylweddol i’n heconomi ni.
Darllenwch am stori ramantus Kimberley Nixon!
Dysgu rhagor...Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol
Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw
- 10% oddi ar siopau Cadw
- 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
- Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
- Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
- Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn