Skip to main content

Mae llawer o bobl sy’n pendroni beth i’w wneud ar benwythnos yn troi at y tenor operatig Wynne Evans am gyngor.

Bob dydd Gwener bydd yn dod o hyd i’r gweithgareddau gorau sy’n digwydd yng Nghymru ac yn eu rhannu gyda’i wrandawyr ffyddlon ar BBC Radio Wales.

Fe holon ni Wynne am y pethau gorau i’w gwneud yng Nghymru, am ei hoff le cyngerdd o blith safleoedd Cadw ac, wrth gwrs, am ei hoff safle.

Pa un yw eich hoff safle a beth sy’n ei wneud yn arbennig i chi? Castell Llansteffan. Rwy’ wrth fy modd gyda’r ffordd y mae’n codi uwchben y bae ac mae gen i fi lawer o atgofion hapus yno.

Beth yw’r peth gorau amdano? Y tro lan y bryn at y castell ac wedyn yr ehangder anferth yma a’r golygfeydd tros fae Caerfyrddin. Mae’n hyfryd. Rwy’n diflasu fy mhlant wrth siarad am y lle trwy’r amser!

Oes gyda chi hoff stori yn ymwneud â’r safle yma?

Ro’n i newydd basio fy mhrawf gallu ar y beic a wnes i seiclo draw gyda fy mrawd ac un o ffrindiau fy rhieni o Gaerfyrddin i Lansteffan. Mae’r castell yn eich croesawu chi wrth ichi gyrraedd. Gawson ni ychydig o sglodion a’u cario nhw gyda’n beics lan i’r castell. Roedd e jyst yn ddiwrnod hudolus.

Mae mwy na 5,000 o flynyddoedd o hanes i’w harchwilio yn safleoedd Cadw. Pe baech chi’n gallu teithio’n ôl trwy amser, pa gyfnod hanesyddol fyddech chi’n ei ddewis a pham? Rwy’n credu y bydden i’n mynd yn ôl i oes Victoria, ond dim ond os gelen i fod yn un o’r gwŷr mawr! Rwy’n caru natur ‘glam’ y cyfnod ac wrth fy modd gyda’r dillad. Rwy’ hefyd yn hoff o’r bensaernïaeth. Y llynedd brynon ni dŷ oedd wedi’i godi yn 1890 ac mae wedi bod yn brosiect gwych i’w roi’n ôl at ei gilydd.

R’ych chi wedi perfformio mewn lleoliadau gwych ar draws y byd. Pe baech chi’n cael y gwaith o gynnal digwyddiad operatig yn un o safleoedd Cadw, pa un fyddai’r dewis a pham? Rwy’n credu y byddai’n rhaid i fi ddewis Castell Cas-gwent. Mae’n drysor bychan ac yn ardderchog ar gyfer digwyddiadau. Wnes i ganu a chyflwyno mewn digwyddiad yno y llynedd ac roedd yr awyrgylch yn drydanol.

R’ych chi’n enwog am ysbrydoli pobl Cymru ynglˆyn â’r penwythnos. Pe baech chi’n gorfod creu taith benwythnos i rywun oedd heb fod yng Nghymru o’r blaen, pa bump peth fyddech chi’n ddweud oedd yn ‘orfodol’?

Yffach, mae hwnna’n un anodd!

1. Bae’r Tri Chlogwyn ym Mhenrhyn Gŵyr gyda hufen-iâ Joe’s a phice ar y maen o farchnad Abertawe.

2. Castell Llansteffan, gan godi ychydig o ham Caerfyrddin ar y ffordd.

3. Parc Cenedlaethol Eryri — mae’r daith car trwy’r parc yn mynd â’ch anadl chi.

4. Canolfan Mileniwm Cymru, gyda phastai Clark’s.

5. Gŵyl Fwyd y Fenni.

 

 

 

Darllenwch am Matt Wild yn dod â dreigiau’n fyw!

Dysgu rhagor...

Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru

Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol

Ymunwch â Cadw heddiw

Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw

  • 10% oddi ar siopau Cadw 
  • 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
  • Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
  • Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage 
  • Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn