Skip to main content

Telerau ac Amodau

Mae Cadw yn cynnig cyfle i ennill gwobr, fel y nodir ym mharagraff 6 isod yn unol â’r telerau ac amodau cyffredinol hyn sy’n ymwneud â chystadlaethau arolwg

  • bydd y gystadleuaeth yn para cyhyd ag y bydd yr arolwg yn para, sef am gyfnod amhenodol, ond gall Cadw dynnu'r arolwg yn ôl ar unrhyw adeg
  • drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth rydych yn derbyn y telerau ac amodau cyffredinol hyn sy’n ymwneud â chystadlaethau arolwg
  • dim ond tocynnau a archebwyd ac a brynwyd trwy'r system archebu ar-lein ar wefan Cadw fydd yn derbyn dolen e-bost i'r arolwg
  • nid yw ymwelwyr sy’n rhan o grwpiau trefnwyr teithiau yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth hon.

Sut i gymryd rhan

Ar ôl i chi ymweld â'r safle Cadw rydych chi wedi archebu tocyn ar ei gyfer, cewch wahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg. Defnyddiwch y ddolen a ddarparwyd i gwblhau'r arolwg.

Cymhwystra

Er mwyn bod yn gymwys i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rhaid i ddefnyddiwr cofrestredig:

  • fod wedi ateb yr holl gwestiynau a nodwyd fel sy'n ofynnol yn yr arolwg
  • fod wedi cydsynio i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn yr arolwg
  • ni chânt fod yn gyflogai nac yn gyflenwr i Cadw na Llywodraeth Cymru
  • fod wedi cwblhau'r arolwg unwaith yn unig ar gyfer pob safle Cadw yr ymwelwyd ag ef.

Dewis enillydd a hawlio’r wobr

  1. bydd Cadw yn dewis enillydd ar hap bedair gwaith y flwyddyn ar 1 Mawrth, 1 Mehefin, 1 Medi a 1 Rhagfyr (neu'r diwrnod gwaith cyntaf yn dilyn y dyddiadau hyn)
  2. mae dewis enillwyr yn broses gwbl ar hap, lle nad yw Cadw yn dyfarnu unrhyw farn, ac ni fydd unrhyw ohebiaeth yn cael ei chynnal mewn perthynas â chystadlaethau
  3. ni fydd manylion adnabod enillwyr yn cael eu datgelu na'u cyhoeddi
  4. anfonir e-bost at yr enillydd yn gofyn iddynt gadarnhau'r wobr y maent am ei derbyn a'r cyfeiriad e-bost i'w hanfon ato — rhaid i enillwyr ymateb i’r e-bost o fewn 5 diwrnod i hawlio eu gwobr
  5. bydd gwobrau a gaiff eu hawlio’n llwyddiannus yn cael eu hanfon at yr enillydd drwy e-bost o fewn 30 diwrnod i dderbyn eu e-bost hawlio
  6. ni fydd y cynigion hynny nad ydynt yn enillwyr yn derbyn gohebiaeth bellach gan Cadw ynglŷn â’u cynnig a bydd eu manylion cyswllt yn cael eu dileu
  7. drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth a derbyn y Telerau ac Amodau Cyffredinol hyn sy’n ymwneud â Chystadlaethau Arolwg, rydych chi’n rhoi caniatâd i Cadw ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i gysylltu â chi os byddwch yn ennill.

Mae'r Data Preifatrwydd llawn sy'n amlinellu sut rydym yn defnyddio'ch data i'w weld yma