Skip to main content

Y tu ôl i’r llenni

Gwyliwch sut cafodd Dewi ei greu dros amser o un mowld clai yn y fideo hwn sy'n siŵr o’ch cyfareddu.

Fe gymerodd hi chwe wythnos, 374kg o silicon a thîm o 15 cerflunydd talentog i greu ein Draig.

Cynhyrchwyd y creadur sy’n bedwar metr o hyd a dau fetr o led gan Wild Creations. Gwyliwch sut y daeth y ddraig yn fyw yn y ffilm arbennig hon, a ffilmiwyd yng ngweithdy’r tîm yng Nghaerdydd dros gyfnod o 42 diwrnod.

Creu Dwynwen...

Cafodd Dwynwen ei cherflunio, ei mowldio a’i pheintio gan dîm o 16 yn Wild Creations — cwmni sy'n arbenigo mewn dylunio celf. Dyma’r cwmni oedd yn gyfrifol am greu Dewi yn 2016.

Cafodd y creadur 4-metr o led ei adeiladu dros gyfnod o 6 wythnos, ac mae’r fideo diddorol hwn yn ei ddangos yn ystod cyfnod olaf y gwaith adeiladu.

Creu'r Dreigiau Bach...

Cafodd y dreigiau bach eu creu gan dîm o 16 yn Wild Creations, cwmni o Gaerdydd sy’n arbenigo mewn dylunio celfi.

Cawsant eu cerflunio a’u mowldio ac yna eu hadeiladu o wydr ffibr cyn gosod technoleg animatronig ynddynt — sy’n galluogi’r dreigiau bach i symud eu pennau, eu gyddfau a’i hadenydd.

Mae’r fideo hynod ddiddorol hwn yn dangos sut y cafodd y ddwy ddraig fach eu creu...