Skip to main content

Adnoddau Drysau Agored

Ymunwch â'r dathliad cenedlaethol o bensaernïaeth a threftadaeth yng Nghymru ym mis Medi!

Os bydd gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn Drysau Agored fel trefnydd digwyddiadau neu berchennog adeilad, yna bydd Cadw yn rhoi amrywiaeth o adnoddau i'ch helpu i gynllunio diwrnod llwyddiannus.

Bydd y deunydd hyrwyddo am ddim ar gael ddechrau’r haf. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno digwyddiad gallwch wneud cais amdano ar-lein. Anfonwch e-bost at open.doors@llyw.cymru i gyflwyno’ch cais a nodwch a hoffech gael baneri, byntin, bathodynnau, balŵns neu gymysgedd

Er mwyn eich cefnogi chi i sicrhau bod eich digwyddiad mor llwyddiannus â phosibl, byddwn yn darparu:

  • yswiriant atebolrwydd cyhoeddus am ddim
  • llyfryn i drefnwyr gan gynnwys canllaw ar gyfer trefnu digwyddiad, canllaw cyfryngau a thempled o ddatganiad i'r wasg
  • posteri i hysbysebu'r digwyddiadau Drysau Agored ledled Cymru a phoster y gellir ei deilwra ar gyfer eich digwyddiad(au).
  • ffurflenni gwerthuso
  • sylw ar y wefan genedlaethol
  • cyfle i gael eich amlygu yn yr ymgyrch cyfryngau genedlaethol
  • canllawiau dros y ffôn neu dros e-bost.