Skip to main content

Gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru yw Cadw. Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer Rhaglen Drysau Agored, byddwn yn casglu'ch data personol — eich enw, enw'r corff rydych yn perthyn iddo a chyfeiriad eich e-bost — er mwyn e-bostio'r newyddion diweddaraf am Drysau Agored. Llywodraeth Cymru yw rheolydd data'r wybodaeth hon a byddwn yn ei defnyddio i reoli'r rhestr cofrestru. Fyddwn ni ddim yn rhannu'ch gwybodaeth ag unrhyw un arall. Byddwn yn cadw'r wybodaeth am 6 mlynedd neu tan ichi ofyn inni'ch tynnu o'r rhestr cofrestru.  

Os hoffech inni ddileu eich gwybodaeth oddi ar y rhestr, e-bostiwch eich cyfeiriad e-bost at CadwPublicProgrammes@llyw.cymru ac fe'ch tynnwn o'ch rhestr gofrestru a dileu pob gwybodaeth bersonol amdanoch.

O dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, mae hawl gennych:

  • weld y data personol yr ydym yn eu prosesu amdanoch;
  • gofyn inni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny;
  • gwrthwynebu eu prosesu neu gyfyngu arno (o dan amgylchiadau penodol);
  • gofyn am ddileu'ch data (o dan rai amgylchiadau);
  • cyflwyno cwyn;
  • tynnu'ch caniatâd yn ôl inni brosesu'ch data unrhyw bryd.

Am ragor o fanylion am yr wybodaeth sy’n cael ei chadw neu’i defnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os hoffech fwy o wybodaeth am eich hawliau o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, cysylltwch â:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru

Parc Cathays

CAERDYDD

CF10 3NQ

Cyfeiriad E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru

 

Lluniau Drysau Agored — cytundeb i’w defnyddio gan Cadw

Drwy roi tic ‘ie’ yn y bocs cytundeb defnyddio delwedd ar ffurflen gofrestru Drysau Agored:

Rydych chi’n cytuno ein bod ni (Cadw) yn gallu defnyddio a chyhoeddi rhan neu’r holl ddelwedd(au) mewn unrhyw gyfrwng yn gysylltiedig â neu drwy gyfeirio at Drysau Agored 2021 (y 'Pwrpas') ar sail anghyfyngedig, rhydd o freindal, ac y gallwn is-drwyddedu defnydd o’r ddelwedd (delweddau) i’r un diben.
Rydych chi’n cytuno na fyddwn ni nac is-drwyddedwr yn gallu rhoi cydnabyddiaeth i chi, y ffotograffydd gwreiddiol na’r deiliad hawlfraint perthnasol pan fyddwn yn defnyddio’r ddelwedd (delweddau).
Mae gennych hawl i roi trwydded i ni ddefnyddio’r ddelwedd (delweddau) i’r Pwrpas ar y termau hyn a byddwch yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw hawliadau, colledion, costau a threuliau (cyfreithiol neu fel arall) a achoswyd gennym ni ac sy’n codi mewn perthynas â’n defnydd o’r delweddau.
Rydych yn cytuno bod deddfau Cymru a Lloegr yn rheoli’r uchod a bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr yr awdurdod anghynhwysol i setlo unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n ymwneud â’r uchod.