Skip to main content

Mae ein fideos Cestyll o’r Cymylau yn dangos pa mor ysblennydd mae ein safleoedd yn edrych o’r awyr – ewch ar antur drwy’r awyr i un o’n henebion yng Nghymru heddiw!

Os ydych chi am ffilmio ein safleoedd o’r awyr i gael darn o ffilm unigryw, llenwch ein ffurflen gais ar gyferffilmio a ffotograffiaeth a bydd aelod o’n tîm Masnachol yn cysylltu â chi.

Cyn i chi gyflwyno’r cais, dyma rai canllawiau ar gerbydau awyr di-griw (UAV neu dronau) sy’n ffilmio ar ein safleoedd y mae’n rhaid i ymgeiswyr gydymffurfio â nhw rhag difrodi’r henebion neu achosi niwed i’n hymwelwyr.

  • Ni chaniateir i ddronau hedfan dros ein safleoedd yn ystod oriau agor yr henebion. Mae’r oriau agor ar gael ar dudalennau penodol pob safle yn ein hadran Diwrnodau Allan.
  • Mae’n rhaid darparu copi o drwydded CAA llawn a thrwydded beilot cyn i chi ffilmio (ni fyddwn yn caniatáu i amaturiaid neu’r rhai sy’n cyflawni oriau hyfforddi weithredu cerbydau awyr di-griw dros ein safleoedd). Efallai y bydd angen eitemau ychwanegol ar gyfer mathau eraill o ffotograffiaeth o’r awyr, h.y. hedfan barcud.
  • Mae’n rhaid i bob hediad dros eiddo Cadw gydymffurfio â rheoliadau CAA. Mae copi o’r rheoliadau hyn ar gael ar wefan CAA.
  • Mae Cadw yn cadw’r hawl i wrthod eich cais a chodir tâl am bob cais fel arfer. Mae’r taliadau perthnasol ar gyfer ffilmio a ffotograffiaeth ynghlwm wrth y dudalen ffurflen gais.

Efallai y bydd angen dogfennau ategol ac y bydd gofynion ychwanegol ar gyfer rhai mathau eraill o ffotograffiaeth o’r awyr.

Ni chaniateir ffilmio ein safleoedd o'r awyr o gwbl hyd nes y bydd cais wedi'i gymeradwyo ymlaen llaw gan Cadw.