Skip to main content

Cylchgrawn Aelodau Cadw, Heritage in Wales / Etifeddiaeth y Cymry, yw un o’r prif gyfryngau a ddefnyddir gennym i gyfathrebu gyda’n cynulleidfa o haneswyr brwd.

Caiff ei gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn ac mae ar gael yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Dyma gylchgrawn 48 tudalen sy’n llawn newyddion a hanesion am ein 130 o safleoedd hanesyddol a mwy — mwy na digon i fodloni disgwyliadau uchel ein darllenwyr.

Ceir amrywiaeth fawr o fewn ein cynulleidfa, o deuluoedd 2.4 o blant hyd at gyplau a’r henoed. Mae ein cylchgrawn yn cynnig cyfle arbennig
i hysbysebwyr i gysylltu ag oddeutu 35,000 o ymwelwyr sy’n mwynhau tripiau gwych i’n henebion hyd a lled Cymru.

Edrychwch ar ein pecynnau hysbysebu isod i gael mwy o wybodaeth neu ffoniwch dîm masnachol Cadw ar 03000 257182 neu e-bostiwch cadwcommercial@llyw.cymru