Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Un o’n prif uchelgeisiau yw gwella’r profiad i ymwelwyr, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r celfyddydau er mwyn gwneud hyn ac er mwyn cael y safleoedd sydd yn ein gofal i gael eu gwerthfawrogi a’u deall fwy, ac i ennyn brwdfrydedd tuag atynt.

Mae safleoedd Cadw yn cynnwys mannau lle’r oedd sgiliau celf a chrefft a’u cynnyrch yn rhan o wead y safle, neu’n rhan annatod o’r bywydau a fu fyw yno. Felly rydym yn awyddus i ddod â’r celfyddydau’n ôl i’r safleoedd er mwyn ysbrydoli ymwelwyr i feddwl am henebion a safleoedd mewn ffordd wahanol.

Rydym yn annog artistiaid i gysylltu â’n tîm digwyddiadau i drafod sut i arddangos eu gwaith yn ein safleoedd drwy arddangosfeydd dros dro i ddibenion anfasnachol. Anfonwch neges e-bost i cadwevents@llyw.cymru i drafod ac i wneud trefniadau.