Skip to main content

Cynllun Llawr — Caer Rufeinig Segontium

Esiamplau o digwyddiadau ar safloeoedd

  • Digwyddiad Wythnos Genedlaethol Adrodd Storïau
  • Digwyddiad Pasg dros benwythnos y Pasg
  • Taith Gerdded Fawr Cymru
  • Digwyddiad ail-greu mawr â gweithgareddau ymarferol
  • Digwyddiad y Darlun Mawr
  • Digwyddiadau cymunedol

Gwybodaeth meysydd parcio

Digon o le parcio ar y stryd y tu allan i’r safle.

Mynediad i’r Safle

Gall cerbydau ddod i’r safle drwy giât ar yr ochr, i lwytho a dadlwytho ar gyfer digwyddiadau.

Mynediad i bobl sy’n chael yn anodd symud o gwmpas

Mae yna risiau i’r brif fynedfa ac i’r adeilad i ymwelwyr. Glaswellt sydd dan draed yn bennaf yn y gaer gyda mannau graeanog a rhai grisiau. Gall cadeiriau olwynion ddod i mewn drwy giât ar yr ochr drwy drefnu ymlaen llaw.

Cyfleusterau

  • Mae toiledau gwryw / benyw ar gael ar y safle gan gynnwys cyfleusterau i’r rhai sy’n ei chael yn anodd symud o gwmpas.
  • Mae byrddau a chadeiriau ar gael i’w defnyddio yn y ganolfan ymwelwyr
  • Signal ffonau symudol yn dda ar draws y safle

Trwydded ar y Safle?

Mae gan y safle drwydded PRS.

Mannau o dan do

Mae’r ganolfan newydd yn cynnig lleoliad unigryw, llawn ysbrydoliaeth yng Ngwynedd i roi lle gweithio a lle cyfarfod i ymwelwyr ac aelodau o’r gymuned. Mae natur unigryw y safle yn cael ei chryfhau gan ei ymroddiad i ddod â threftadaeth a hanes i’r ysgolion a’r cymunedau lleol.

Mae dwy ystafell fawr ar gael yn y Ganolfan Ymwelwyr.
Mae adeilad yr hen amgueddfa wedi’i adnewyddu ac wedi’i uwchraddio’n sylweddol, mae yno:

62  metr sgwâr o le at arddangosfeydd/gweithdai/digwyddiadau

27 metr sgwâr o le hyblyg at weithdai/arddangosfeydd

18m o le hongian ar gyfer arddangosfeydd perthnasol dros dro

Mae yno gegin bwrpasol ond dim cwcer.

Mae yno doiledau hwylus i bobl ag anableddau.

Mae yno le hyblyg ar gyfer gweithdai sy’n cynnwys sinciau Belfast a digon o le cownter.

Mae gan yr adeilad ddigon o olau dydd naturiol ardderchog.

Does dim cyfleusterau tywyll naturiol, ond bydd bleindiau’n cael eu gosod yn nes ymlaen.

Gall pobl ag anableddau gyrraedd yr adeilad drwy ddefnyddio’r rhamp yng nghefn yr adeilad; mae pob llawr yn wastad ac yn hygyrch.

Trwydded ar gyfer Priodasau a Phartneriaethau Sifil

Nac oes

Cynllun  o’r safle

Oes

Power ar gael ar y safle

Oes - pwer o'r prif gyflenwad ar gael o'r Canolfan Ymwelwyr

Dwr ar gael ar y safle

Oes - dwr o'r prif gyflenwad ar gael o'r Canolfan Ymwelwyr

Caniatad i osod pegiau yn y llawr

Oes – hyd at 110mm – 4 modfedd

Unrhyw fannau cyfnedig?

Oes- Hen gronfa dŵr, a bydd rhai ardaloedd yn cyfyngedig yn ystod gwaith cadwraeth a gwaith cynnal a chadw.