Skip to main content
Castell Conwy / Conwy Castle

Mae nifer o henebion Cadw â llifoleuadau ac maen nhw’n werth eu gweld pan maen nhw wedi’u goleuo dros nos.

Mae’r gallu i newid lliwiau’r goleuadau hyn yn cynnig cyfle gwych i elusennau godi ymwybyddiaeth am achosion penodol.

Mae llifoleuadau yn y safleoedd canlynol sydd dan berchenogaeth ac yn cael eu gweithredu gan Cadw, ac sydd felly â’r potensial i gael eu goleuo mewn lliwiau gwahanol.  

Ceir llifoleuadau allanol safonol yn:

  • Castell Biwmares
  • Castell Caernarfon
  • Castell Cas-gwent
  • Castell Conwy
  • Castell Cricieth
  • Castell Harlech
  • Castell Cydweli
  • Castell Llansteffan
  • Castell Dinbych

Ceir llifoleuadau allanol LED sy’n newid lliw yn:

  • Castell Caerffili
  • Castell Coch

Canllawiau ar gyfer safleoedd hanesyddol gyda llifoleuadau safonol

Gellir gorchuddio llifoleuadau allanol safonol yn y safleoedd hyn gyda dalennau gel goleuo i newid lliw’r golau sy’n cael ei daflunio. Noder os gwelwch yn dda, oherwydd y galw rheolaidd am oleuo safleoedd i elusennau, bydd yn rhaid i’r sefydliad elusennol dalu am gostau’r geliau i orchuddio’r llifoleuadau. Rhaid ymgynghori â chontractwr goleuo cymwysedig ar gyfer pob cais a nhw fydd yn gyfrifol am y deunyddiau a’u gosod/tynnu ymaith ar eich cais. Rhaid talu ffi iddyn nhw am y gwasanaeth hwn yn ogystal â’r ffi sy’n daladwy i Cadw isod.  

Canllawiau ar gyfer safleoedd gyda llifoleuadau LED sy’n newid lliw

Rheolir o bell y llifoleuadau allanol safonol yn y safleoedd hyn a gallant newid lliw heb fynd i gostau deunyddiau a llafur sydd ynghlwm â gosod dalennau gel fel uchod.

Amodau Safonol

Mae Cadw yn derbyn nifer mawr o geisiadau ar gyfer goleuo ei adeiladau ar ddyddiadau amrywiol, ac mae wedi datblygu meini prawf ar gyfer ceisiadau am oleuo.   

  • Rydym yn derbyn ceisiadau gan elusennau cofrestredig neu grwpiau lleol ddim er elw yn unig.
  • Rydym angen rhybudd o 30 diwrnod i oleuo unrhyw un o’n henebion.
  • Bydd uchafswm o un cais goleuo y safle y mis yn cael ei gytuno gan Cadw a bydd ceisiadau am oleuo yn cael eu hystyried yn ôl y dyddiad y gwnaethpwyd y cais. Mae Cadw yn ystyried un cais y flwyddyn gan elusen.  
  • Caniateir ceisiadau yn dilyn cadarnhad gan weithwyr o fewn Cadw yn unig.
  • Bydd rhaid danfon pob datganiad i’r wasg ynglŷn a thaflunio golau at Cadw yn ogystal â lluniau o’r heneb unwaith y bydd wedi’i goleuo. Efallai byddwn yn rhannu’r rhain ar draws ein cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan.
  • Ystyrir ceisiadau nad ydynt yn elusennol gan yr Uwch Dîm Rheoli os oes budd i’r gymuned.
  • Efallai bydd angen dogfennau a gofynion ychwanegol yn ddibynnol ar eich cais.
  • Mae gan Cadw yr hawl i wrthod neu stopio unrhyw geisiadau goleuo neu weithgaredd goleuo ar unrhyw adeg.

Sut i wneud cais:

Llenwch ein ffurflen archebu ar-lein i gyflwyno cais am oleuadau. Cyflwynwch 1 cais ar gyfer pob heneb i’w goleuo am hyd at 7 diwrnod.

Gwiriwch ein telerau ac amodau uchod cyn cwblhau eich cais.

  • Ceisiadau cymunedol ac elusennol gan ddefnyddio llifoleuadau allanol safonol 

Ffurflen lawn

  • Ceisiadau cymunedol ac elusennol gan ddefnyddio llifoleuadau LED yng Nghastell Caerffili a Chastell Coch

Ffurflen lawn

Noder na fydd ymholiadau am dafluniadau a goleuo gwleidyddol neu lobïo yn cael eu hystyried.

Efallai y bydd gofyn i chi gyflwyno asesiad risg ar ôl derbyn eich cais.