Skip to main content

Cynllun Llawr — Plas Mawr

Esiamplau o digwyddiadau ar y safle

  • Ail-greadau
  • Perfformiadau
  • Digwyddiadau’r Cogydd Hanes

Gwybodaeth meysydd parcio

Does dim cyfleusterau parcio ar gael ar y safle ond y maes parcio agosaf yw Gerddi'r Ficerdy yn Rose Hill Street. Ceir nifer cyfyngedig o leoedd barcio ar y Stryd Fawr am gyfnod cyfyngedig. Does dim mannau parcio pwrpasol i bobl anabl.

Mynediad i’r Safle

Does dim mynediad i’r safle i gerbydau. Bydd rhaid defnyddio’r maes parcio uchod.

Mynediad i bobl sy’n chael yn anodd symud o gwmpas

Safle canol tref. Mae llawer o risiau i’w dringo ym mhob rhan o'r tŷ. Mynediad i gadeiriau olwynion i lawr gwaelod y prif dŷ yn unig ac y gellir ei chyrchu drwy'r fynedfa ochr gyda'r ceidwad safle .

Cyfleusterau

  • Toiled unrhyw gyda mynediad i gadeiriau olwynion
  • Taith sain ar gael gyda dolen sain
  • Byrbrydau ar gael o'r siop anrhegion
  • Mae hefyd nifer o feinciau ar y safle
  • Mae'r signal ffôn symudol yn weddol

Trwydded ar y Safle?

Mae gan y castell drwydded safle (nid ar gyfer yfed). Mae gan y safle drwyddedau PRS a PPL hefyd

Mannau o dan do

Mae’r oriel yn 28 troedfedd o hyd a 17 troedfedd o led. Mae cilfach ar un ochr sy’n 5 troedfedd o hyd ac ychydig dros 3 troedfedd o led. Mae'r Oriel wedi'i lleoli ym mhen uchaf y Porthdy felly mae yna drawstiau to sy'n gostwng yr uchder ar y naill ochr a’r llall i'r ystafell. Mae yno doiled gwryw/benyw, pwyntiau pŵer a goleuadau o lampau sy’n wynebu i fyny. Mae gwyntyllau yn y llawr ar ddwy ochr yr ystafell sy'n darparu gwres/awyr oer. 

Gellir llogi’r ystafell ar gyfer cyfanswm o 40 o bobl am y prisiau canlynol:

  • diwrnod llawn: £72
  • hanner diwrnod: £42
  • noson: £48

Trwydded ar gyfer Priodasau a Phartneriaethau  Sifil

Oes – mae priodasau sifil yn cael eu cynnal yn y Siambr Fawr i hyd at 40 o bobl.

Cynllun o’r safle

Oes

Power ar gael ar y safle

Oes – pŵer 13 amp ar gael mewn amryw o fannau yn y tŷ

Dwr ar gael ar y safle

Oes - dŵr o’r prif gyflenwad

Caniatad i osod pegiau yn y llawr

Ni chaniateir pegiau yn y tir.

Unrhyw fannau cyfnedig?

Oes – mae ambell un o’r ystafelloedd ar gau i’r cyhoedd a rhai ardaloedd o'r safle yn ystod gwaith cadwraeth a gwaith cynnal a chadw.