Skip to main content

Fis Chwefror 2020 cyhoeddodd Grŵp yr Amgylchedd Hanesyddol (HEG) Gynllun Addasu'r Sector y sector Amgylchedd Hanesyddol a Newid Hinsawdd, er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r risgiau a’r cyfleoedd y mae newid yn yr hinsawdd yn eu creu i’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, a’r angen i addasu. Yn Adran 6 y Cynllun mae cyfres o brif gamau gweithredu gydag allbynnau a chanlyniadau a fwriedir ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol.

Rydym bellach yng ngham ‘adroddiad interim ar weithgarwch’ Blwyddyn 4 cylch Fframwaith Monitro a Gwerthuso 5 mlynedd Cynllun Addasu'r Sector. 

Bydd hyn yn ein helpu i werthuso cynnydd yn erbyn y camau gweithredu sydd wedi’u cyhoeddi ac i nodi bylchau a meysydd blaenoriaeth sydd angen sylw pellach.