Yr hyn rydym yn ei ddiogelu a pham
Fel gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, mae Cadw yn gyfrifol am ofalu am y safleoedd a'r lleoedd hanesyddol pwysicaf yng Nghymru.
Rydym yn rheoli rhai o'r rhain ein hunain, ac maen nhw ar agor fel atyniadau i ymwelwyr. Fodd bynnag, nid Cadw sy'n berchen ar y rhan fwyaf, ond unigolion preifat neu gyrff cyhoeddus. Mae dau brif fath o safle gwarchodedig yng Nghymru - henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig.
Mae rhagor o wybodaeth am y rhain, a mathau eraill o safleoedd, ar gael yn adran 'asedau hanesyddol' ein gwefan. Mae henebion cofrestredig yn safleoedd archeolegol sy'n arwyddocaol yn genedlaethol. Gallant amrywio o gestyll mawreddog i wrthgloddiau bach – twmpathau a chodiadau yn y ddaear.
Maen nhw'n cynrychioli pob agwedd ar fywydau ein hynafiaid; y mannau lle'r oeddent yn byw, yn gweithio ac yn chwarae yn ogystal ag yn fannau addoli, yn fannau defodol neu'n fannau o wrthdaro. Gall safleoedd cofrestredig ddyddio'n ôl filoedd o flynyddoedd neu fod yn strwythurau a adeiladwyd yn yr 20fed ganrif. Mae pob un ohonynt yn cael eu diogelu'n gyfreithiol, mae'n drosedd difrodi neu darfu ar heneb gofrestredig heb ganiatâd.
Adeiladau rhestredig yw'r rhai sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Gallant fod yn dai, yn ffatrïoedd, yn siopau, yn ysbytai, neu'n ysgolion - a dweud y gwir, gallant fod yn unrhyw fath o strwythur adeiledig o gwbl ac maen nhw'n amrywio o'r cyfnod Canoloesol i'r rhai a adeiladwyd yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Mae pob adeilad rhestredig yn cael ei ddiogelu'n gyfreithiol ac mae'n debygol y bydd angen caniatâd arbennig arnoch i wneud unrhyw waith iddynt. Gall hyn gynnwys gwaith atgyweirio a gwelliannau a fydd o fudd i'r adeilad.
Mae Cadw yn cadw gwybodaeth am henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig, yn ogystal â mathau eraill o safleoedd hanesyddol, y gellir eu gweld drwy Cof Cymru, ein system fapio ar-lein. Gallwch ddefnyddio Cof Cymru i wirio a oes unrhyw safleoedd gwarchodedig yn eich ardal, ac i gael gwybod mwy amdanynt.
Wrth i ni ddarganfod mwy am ein hadeiladau rhestredig a'n henebion cofrestredig, rydym yn ceisio diweddaru eu disgrifiadau. Fe welwch fod rhai wedi'u diweddaru i gynnwys gwybodaeth am unigolion o leiafrifoedd ethnig sy'n gysylltiedig â hwy, neu unigolion a oedd yn rhan o'r fasnach gaethweision neu'n elwa arni.. Wrth i'n dealltwriaeth newid, byddwn yn parhau i ychwanegu at y cofnod hanesyddol.
Gwyddom fod mwy o henebion ac adeiladau yng Nghymru sy'n arwyddocaol ond nad ydynt wedi'u cydnabod a'u diogelu eto. Gall hyn fod oherwydd nad yw ein hymchwilwyr yn deall eu harwyddocâd. Os ydych yn gwybod am safle neu adeilad y credwch y dylid ei ddiogelu’n gyfreithiol, rhowch wybod i ni. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:
Ceisiadau rhestru yn y fan a’r lle | Cadw (llyw.cymru)
https://cadw.llyw.cymru/cyngor-a-chymorth/asedau-hanesyddol/henebion-cofrestredig