Skip to main content

Ceisiadau rhestru yn y fan a’r lle

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen y nodyn hwn gyda'n canllawiau manylach yma, yn enwedig Deall Rhestru.

Cyflwyniad

Rhestrir adeiladau pan ystyrir eu bod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae adeiladau rhestredig yn asedau hanesyddol o bwys cenedlaethol sy'n ffynhonnell unigryw o wybodaeth am y gorffennol, ac sy'n gwneud cyfraniad gwerthfawr i ansawdd a chymeriad tirweddau a threfluniau yng Nghymru.

Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd statudol i gadw rhestr o adeiladau sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yng Nghymru. Cadw sy'n rheoli'r broses restru. Mae'r detholiad o adeiladau i'w rhestru bob amser yn seiliedig ar eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, h.y. yn unol â meini prawf a gyhoeddwyd.

Diben rhestru yw arwain awdurdodau cynllunio lleol i gyflawni eu swyddogaethau cynllunio a sicrhau y rhoddir ystyriaeth ofalus i adeiladau unigol sydd o ddiddordeb arbennig cyn gwneud penderfyniadau cynllunio. Nid yw rhestru'n atal newid, ond mae'n helpu i sicrhau bod newid yn cael ei reoli'n ofalus drwy’r gyfundrefn Caniatâd Adeilad Rhestredig.

Gwneud cais am restru yn y fan a’r lle

Mae dros 30,000 o adeiladau rhestredig eisoes yng Nghymru, ond gellir ychwanegu adeiladau at y rhestr statudol o hyd. Gall unrhyw un ofyn i Cadw ystyried a yw adeilad yn bodloni'r meini prawf ar gyfer rhestru. Os credwch y dylid diogelu adeilad drwy restru, dylech gyflwyno cais am restru yn y fan a’r lle i Cadw yn cadw@gov.cymru.

Cyn cyflwyno'ch cais, mae'n syniad da i chi wirio a yw'r adeilad eisoes wedi'i restru, drwy fynd i Cof Cymru | Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru (y Rhestr).

Efallai y byddai hefyd yn syniad da siarad â'ch swyddog cadwraeth lleol cyn cysylltu â Cadw.

Os gwrthodwyd rhestru adeilad yn flaenorol, fel rheol, dim ond tystiolaeth newydd gaiff ei hystyried. Dim ond os ydynt o ansawdd eithriadol ac o dan fygythiad dybryd y dylid ystyried adeiladau sy'n iau na 30 mlwydd oed.

Wrth gyflwyno'ch cais, dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • enw, cyfeiriad / lleoliad yr adeilad, gorau oll os gellir darparu cod post a chyfeirnod map
  • manylion cyswllt y perchennog / meddiannydd, os yw'n hysbys
  • lluniau diweddar yn dangos cyflwr presennol yr adeilad – y tu allan, a'r tu mewn os oes modd; a lluniau hanesyddol
  • gwybodaeth hanesyddol am yr adeilad - dyddiad adeiladu, defnydd gwreiddiol a datblygiad hanesyddol (os yw'n hysbys), nodweddion pensaernïol arbennig, ac unrhyw bobl neu ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig ag ef. Rhowch wybod i ni pa ffynonellau rydych chi wedi'u defnyddio i ddysgu am yr adeilad
  • rhesymau pam rydych o’r farn fod yr adeilad yn bodloni’r meini prawf i’w restru
  • rhowch wybod i Cadw os yw'r adeilad dan fygythiad, ond cofiwch y gall cynigion ar gyfer rhestru yn y fan a’r lle pan fydd adeiladau dan fygythiad dybryd o gael eu newid neu eu dymchwel achosi canlyniadau ymarferol ac ariannol difrifol. Mae bob amser yn well ein rhybuddio am ddiddordeb arbennig posibl adeilad cyn y daw bygythiad i'r amlwg.

Beth sy'n digwydd nesaf

Pan fydd Cadw yn derbyn eich cais, bydd y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn cael ei hystyried yn ofalus fel rhan o asesiad desg. Os oes diddordeb, byddwn yn gofyn i'n harolygydd ymweld â'r eiddo. Efallai y bydd angen i ni wneud gwaith ymchwil ychwanegol er mwyn deall yr adeilad yn llawn a'n helpu i sefydlu a yw o ddiddordeb arbennig ai peidio. Gall hyn gymryd llawer o amser ond fel arfer bydd y rhai sy'n cael eu rhestru yn cael eu cwblhau o fewn chwe mis.

Os yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu cynnwys adeilad ar y rhestr, rhaid iddynt ymgynghori â pherchennog a meddiannydd yr adeilad a'r awdurdod cynllunio lleol perthnasol. Mae'r adeilad wedi'i ddiogelu dros dro o ddechrau'r cyfnod ymgynghori. Mae gan berchnogion a meddianwyr gyfle i ofyn am adolygiad o benderfyniad Gweinidogion Cymru i restru adeilad.

Sut mae adeiladau'n cael eu dewis

Y prif feini prawf a ddefnyddir i benderfynu a ddylid cynnwys adeiladau ar y rhestrau statudol yw Diddordeb Pensaernïol arbennig a Diddordeb Hanesyddol arbennig.

Dylai’r rhestr gynnwys pob adeilad sydd o bwys i'r genedl ar sail eu dyluniad pensaernïol, eu gwaith addurnol a'u crefftwaith; a / neu oherwydd eu bod yn enghreifftiau pwysig o fath, cynllun, ffurf a thechneg adeilad penodol. Mae diddordeb hanesyddol yn cynnwys adeiladau sy'n dangos agweddau pwysig ar hanes cymdeithasol, economaidd, diwylliannol neu filwrol y genedl.

Mae cysylltiadau hanesyddol agos â phobl neu ddigwyddiadau sydd o bwys i Gymru yn ystyriaeth ddilys ond fel arfer dylai fod rhywfaint o ansawdd neu ddiddordeb yng ngwead ffisegol yr adeilad ei hun i gyfiawnhau'r amddiffyniad statudol a gynigir drwy restru.

Gellir cynnwys adeiladau hefyd ar sail eu Gwerth fel Grŵp yn enwedig lle mae adeiladau'n cyfrannu undod pensaernïol neu hanesyddol pwysig neu'n enghreifftiau gwych o gynllunio (er enghraifft, sgwâr tref neu fferm ‘fodel’) ond eto, dylent gynnwys agwedd o ddiddordeb arbennig unigol.

Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am y meini prawf yn Polisi Cynllunio Cymru: Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol.