Safle Treftadaeth Werdd
Fe welwch chi barc ym mhob tref ledled Cymru. Gallant fod yn llefydd ffurfiol — gyda phlanhigion addurnol, rheiliau a gatiau, coedlannau o bosibl — neu'n anffurfiol, gyda chlystyrau o goed, dyrnaid o flodau gwyllt, llwybrau troellog. Maen nhw i gyd yn dirweddau sydd wedi'u cynllunio; lleoedd sy'n cynnwys elfennau naturiol a dynol. Ac maen nhw'n hollbwysig i'n lles ni fel unigolion a chymunedau.
Mae treulio amser yn yr awyr agored yn dda i iechyd corfforol a meddyliol, ac mae parciau'n darparu lleoedd ar gyfer gemau, cymdeithasu ac ymarfer corff. Nid yw hyn yn beth newydd. Ar ddiwedd y 1800au a dechrau'r 1900au agorwyd llawer o barciau trefol i'r cyhoedd – naill ai'n ddatblygiadau newydd, neu hen erddi preifat oedd yn cynnig mynediad cyhoeddus am y tro cyntaf. Cynlluniwyd y parciau trefol hyn er mwyn gwella bywydau pobl, oedd yn arbennig o bwysig mewn cyfnod o ddiwydiannu a threfoli cynyddol.
Heddiw, mae llawer o barciau yn fannau gwyrdd a threftadaeth. Maen nhw'n cyfuno manteision treulio amser yn yr awyr agored a holl fanteision ymweld â safleoedd treftadaeth, sy'n gwneud byd o les i ni – y gorau o'r ddau fyd!
Bob blwyddyn, mae parciau a mannau gwyrdd yn ymgeisio am Wobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd. Mae'r gwobrau, sy'n cael eu cynnal gan fudiad Cadwch Gymru'n Daclus, yn cydnabod y lleoedd hynny sy'n ddiogel, yn groesawgar, yn hygyrch ac yn cael eu rheoli a'u cynnal a'u cadw'n dda. Gall parciau a mannau gwyrdd sydd â diddordeb hanesyddol penodol wneud cais am Achrediad Safle Treftadaeth Werdd hefyd. Yma yng Nghymru, Cadw sy'n cymeradwyo Achrediad Safle Treftadaeth Werdd.
Hyd yma, mae 12 lle yng Nghymru wedi derbyn statws Achrediad Safleoedd Treftadaeth Werdd. Mae 10 o'r rhain ar y Gofrestr o Barciau a Gerddi Hanesyddol.
Mae hyn yn cydnabod ymdrechion a wnaed i warchod, cynnal a gwella nodweddion hanesyddol, ac annog pobl i'w mwynhau a'u deall. Mae Safleoedd Treftadaeth Werdd yn llefydd i ymweld ac archwilio'r gorffennol wrth fwynhau'r presennol.