Skip to main content

Adnoddau difyr a defnyddiol ar gyfer dysgu gartref

Defnyddiwch ein gweithgareddau a’n comics hwyl gartref… darllenwch a dysgwch am y gorffennol a beth am greu golygfa o frwydr mewn castell?

Cafodd rhai o’n hadnoddau eu creu i’w defnyddio mewn heneb hynafol, fel castell neu dŷ Tuduraidd - ond gallwch ddefnyddio darnau ohonyn nhw adref!

Chwedlau Aesop, mae 15 stori yma y gellir eu darllen a’u trafod adref gyda’ch gilydd. Gallwch hefyd edrych ar y lluniau hyfryd sydd wedi eu paentio ar waliau Castell Coch a chreu eich lluniau eich hun

Mae gennym becynnau addysgol am gestyll Cymru, ewch i’r dolenni isod. Mae nifer o weithgareddau difyr yma y gallwch eu gwneud gartref. Beth am adeiladu castell? Neu beth am greu ffilm gyffrous, gan ddefnyddio ap stop motion, neu beth am fentro amdani gyda her y catapwlt!

Pwy ydy eich arwyr ac arwresau Cymreig? Ydych chi’n gallu enwi arwyr ac arwresau Cymreig o’r gorffennol?

Ewch ati i chwilio am wybodaeth i weld sut oedd pobl yn byw yng Nghymru yn ystod y cyfnod Cynhanes.

Mae gêm llinell amser Castell Coch a Chaerdydd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi’i chynllunio i gyflwyno disgyblion i un o destunau hanes Cyfnod Allweddol 2 sef newid yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae’r gêm yn rhoi gwybodaeth i ddisgyblion am ddigwyddiadau, pobl, adeiladau a chludiant yn yr ardal drwy’r 1800au.

Gellir defnyddio’r wybodaeth hon i ysgogi trafodaeth ar y testun allai wedyn arwain at waith pellach fel rhan o ymchwiliad hanesyddol. Mae’r taflenni gwybodaeth yn cyfeirio disgyblion at fannau lle mae’n bosibl iddyn nhw ymchwilio pob maes diddordeb ymhellach.

Darganfyddwch straeon rhyfeddol sydd wedi’u hysbrydoli gan Gastell Coch.

Dilynwch ein cymeriadau ar eu hanturiaethau ac efallai y cewch eich ysbrydoli i greu eich straeon eich hun hefyd gyda’r gweithgaredd difyr hwn.