7 Ffordd o Wella 2020 drwy Ymaelodi â Cadw
Mae Blwyddyn Awyr Agored Cymru 2020 wedi cyrraedd ― a does dim amser gwell i ddarganfod rhyfeddodau Cymru.
O gestyll mawreddog i abatai hynafol a hen siambrau claddu, mae tirwedd garw Cymru yn gartref i fwy na 100 o safleoedd hanesyddol ― ac mae aelodau Cadw yn cael mynd i bob un ohonynt.
Felly, os yw ffitrwydd, llesiant personol ac archwilio yn yr awyr agored yn rhai o’ch addunedau ym mis Ionawr, rydym yn sicr y bydd eich blwyddyn gyfan yn cael ei chyfoethogi drwy ymaelodi â Cadw.
Dyma 7 ffordd o weld gwahaniaeth...
- Mynediad yn rhad ac am ddim i 130 o safleoedd hanesyddol
Mae aelodau Cadw yn mwynhau ymweliadau diderfyn ag eiddo treftadaeth ledled y wlad.
A’r peth gorau? Mae unrhyw un sy’n ymaelodi ym mis Ionawr yn cael 20% oddi ar y pris safonol (drwy ddefnyddio’r cod ION20 wrth dalu) — ac mae hyn ynddo’i hun yn sbardun gwych!
- Cewch archwilio 6,000 o flynyddoedd o hanes Cymru (mewn 365 o ddiwrnodau)
Gyda Cadw, cewch weld ceyrydd Rhufeinig neu dai Tuduraidd a dilyn ôl troed trigolion blaenorol Cymru ― gan ddysgu am y miloedd o flynyddoedd o hanes sydd ar garreg eich drws.
Hefyd, bydd eich aelodaeth yn cynnwys mynediad am ddim i eiddo Eiraght Ashoonagh Vannin (treftadaeth genedlaethol Ynys Manaw) ― yn ogystal ag English Heritage ac Alba Aosmor (treftadaeth yr Alban) pan fyddwch yn adnewyddu.
3. Rydych chi’n siŵr o gael yr awydd i deithio
Mae 130 o safleoedd ledled y wlad, felly mae ymaelodi â Cadw yn rhoi cyfle gwych i archwilio rhannau o Gymru na fuoch ynddynt o’r blaen (ond sy’n wastad wedi bod o ddiddordeb i chi).
Hefyd, mae Rhestr Gyfeirio Hanes Heddiw yn cynnwys teithiau ar gyfer teuluoedd, anturwyr a cherddwyr — felly mae hi’n haws fyth cynllunio diwrnod yn yr awyr agored.
- Cewch amser gyda’ch anwyliaid
Beth bynnag fo'r tywydd, mae ymweliad ag un o safleoedd Cadw yn ffordd dda o dreulio prynhawn yn yr awyr agored gyda phobl sy’n annwyl i chi. Beth am ofyn i un o chwaraewyr rygbi chwedlonol Cymru, Sam Warburton.
Drwy ymaelodi â Cadw, gallwch chi fwynhau’r amser arbennig hwn dro ar ôl tro
5. Cewch fod yn anturiwr awyr agored
Mae cestyll mawreddog ynghudd yn y rhannau mwyaf anghysbell a garw o Gymru.
Felly, boed yn cerdded y mynyddoedd yn Eryri neu’n canŵio ar hyd yr arfordir, mae aelodau Cadw yn aml yn canfod esgus i ymweld â safleoedd mewn ffyrdd anturus.
A pha amser gwell i ymuno â nhw nag yn ystod Blwyddyn Awyr Agored Cymru 2020?
6. Cewch fwynhau mynediad cynnar i ddigwyddiadau
Mae aelodau Cadw yn mwynhau mynediad i gannoedd o ddigwyddiadau i deuluoedd yn rhad ac am ddim bob blwyddyn ― o ysgolion cleddyfau canoloesol i nosweithiau yn syllu ar y sêr.
Yn y cyfamser, cewch fwynhau 10% oddi ar y pris a mynediad â blaenoriaeth i ddigwyddiadau poblogaidd y codir tâl amdanynt.
- Cewch fod yn un o’r rhai sy’n gwarchod treftadaeth Cymru
Mae’r gefnogaeth a gawn gan aelodau Cadw yn ein helpu i ddiogelu a chadw ein safleoedd fel y gall cenedlaethau'r dyfodol eu harchwilio a’u mwynhau.
Yna, cewch archwilio mannau prydferthaf Cymru drwy gydol y flwyddyn.
A chofiwch — gallwch chi hawlio 20% oddi ar yr aelodaeth o’ch dewis drwy ddefnyddio’r cod ION20