Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Er y bydd Dydd y Cofio (dydd Mercher, 11 Tachwedd), yn cael ei nodi ychydig yn wahanol eleni, mae yna lawer o ffyrdd o hyd y gallwn anrhydeddu a thalu teyrnged i'r rhai sydd wedi gwasanaethu ac aberthu i amddiffyn ein cenedl.

Yn Cadw, rydyn ni wedi penderfynu tyrchu drwy’r archifau a rhoi sylw i naw o'n hadeiladau hanesyddol rhestredig gwnaeth pob un ohonynt chwarae rhan bwysig, ond gwahanol yn ymdrechion Prydain a’i chynghreiriaid yn ystod y rhyfel.

O borthladdoedd fferi a ddaeth yn ganolfannau byddin dros dro i westai ffansi a drowyd yn ysbytai dros dro y tu ôl i bob adeilad hanesyddol mae stori o drawsnewid, undod a phenderfyniad.

 

1. Hen Westy’r Cambria, Aberystwyth

Agorodd yr hen westy, sydd erbyn hyn yn ganolfan fusnes, a leolir ar bromenâd eiconig Aberystwyth, ei ddrysau am y tro cyntaf ar 31 Gorffennaf 1896.

Wedi'i ddylunio a'i adeiladu gan y peiriannydd enwog, George Croydon Marks, aeth Gwesty'r Cambria ymlaen i fod yn Goleg y Methodistiaid Calfinaidd Unedig ym 1906.

Ond, drwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd yr adeilad ei fenthyg i'r Groes Goch Brydeinig a'i droi'n ysbyty dros dro, gan ddarparu gofal hanfodol i'r rhai a oedd wedi ymladd mor ddewr ar y rheng flaen.

Cydnabyddir fel adeilad rhestredig Gradd II gan Cadw ers: Tachwedd 1987

 Gwesty Cambria / Cambria Hotel

© Llun wrth: casgliad George Eyre Evans, Cambrian News 

 

2. Gwesty’r Imperial, Llandudno

Fe wnaeth y gwesty hwn ar y promenâd - a elwir heddiw yn ‘Frenhines cyrchfannau Cymru’ - roi’r gorau i groesawu pobl ymwelwyr a daeth yn ail gartref i adrannau’r llywodraeth yn Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn ysu am ddianc rhag peryglon prifddinas Lloegr, symudodd Pencadlys Cyllid y Wlad ac adleoli rhai o'i 5,000 o staff i adeiladau o'r math hwn, wedi'u lleoli yn ardal gymharol ddiogel Gogledd Cymru.

Yn eu plith roedd James Callaghan ifanc, a aeth ymlaen i fod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ym 1976. 

Cydnabyddir fel adeilad rhestredig Gradd II ers: Mawrth 1976 (diwygiwyd gan Cadw ym mis Mehefin 2001)

Gwesty Imperial / Imperial Hotel

© Llun gan: @peternkitchin, Twitter

 

3. Hen Gapel y Tabernacl, Bangor

Wedi'i adeiladu ym 1907 gan bensaer Eglwysi Fictoraidd, James Cubitt, mae'r hen gapel hardd hwn bellach yn gartref i gasgliad o fflatiau modern - gwahanol iawn i’w ddefnydd yn ystod y rhyfel fel canolfan ddarlledu newyddion.

Yn dilyn gwacáu ar raddfa fawr yn Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dechreuodd Adran Amrywiaeth y BBC ddarlledu rhaglenni comedi a cherddoriaeth mawr eu hangen i hybu morâl, gan gynnwys perfformiadau eiconig gan y diweddar Fonesig Vera Lynn.

Cydnabyddir fel adeilad rhestredig Gradd II gan Cadw ers: Mawrth 1988 (diwygiwyd ym mis Awst 1988)

 

4. Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor

O arholiadau ac adloniant i wleddau a gloddestau, mae Neuadd Prichard-Jones Prifysgol Bangor wedi chwarae rhan annatod ym mywyd myfyrwyr ers iddi agor am y tro cyntaf yn 1911 - ac mae’n parhau i wneud hynny heddiw.

Enwyd yr adeilad trawiadol ar ôl dyn busnes o Gymru, John Prichard-Jones, a roddodd £15,000 tuag at y gost o’i hadeiladu.

Fodd bynnag, ychydig cyn i'r Ail Ryfel Byd ddechrau, symudwyd dros 500 o baentiadau gwerthfawr o Oriel Genedlaethol Llundain yma wedi’u hamddiffyn gan wy arfog, i'w diogelu rhag bomiau o'r awyr.

Yn cynnwys gwaith amhrisiadwy gan artistiaid fe Belbrandt, Rubens a Botticelli, arhosodd y paentiadau ym Mangor am ddwy flynedd, cyn cael eu symud i chwarel lechi tanddaearol segur Manod ger Blaenau Ffestiniog.

Cydnabyddir fel adeilad rhestredig Gradd I ers: Mawrth 1949 (diwygiwyd gan Cadw ym mis Awst 1988)

 

5. Bryn y Barwn, Biwmares

Wedi'i adael a'i orchuddio gan dyfiant, plasty Bryn y Barwn yw un o adfeilion mwyaf trawiadol a diddorol Cymru.

Gan ffurfio rhan o ystâd a oedd unwaith yn gartref i deulu pwerus Bulkeley, roedd y Peirianwyr Brenhinol wedi'u lleoli yn y plasty ysblennydd hwn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Erbyn yr Ail Ryfel Byd, meddiannodd y Llywodraeth Fryn y Barwn fel cyfleuster i letya milwyr o Wlad Pwyl dros dro. Gan fod yr adeilad mor oer, dechreuodd y milwyr dân y tu mewn i’r plasty yn y gobaith o gael eu symud i lety newydd.

Yn anffodus, methodd eu cynllun. Dinistriodd y fflamau rannau helaeth o'r tu mewn i'r plasty, gan olygu y bu’n rhaid symud y milwyr i bebyll ar dir yr ystâd yn lle hynny.

Cydnabyddir fel adeilad rhestredig Gradd II ers: Medi 1950 (diwygiwyd gan Cadw ym mis Gorffennaf 2005)

 Barwn-Hill / Baron-Hill

© Llun gan: @oicanalp, Instagram

 

6. Morglawdd Caergybi, Ynys Môn

Wedi'i gysgodi gan forglawdd 1.7 milltir o hyd, gwasanaethodd Porthladd Caergybi fel canolfan newydd i Lynges Frenhinol yr Iseldiroedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd tra bod eu gwlad wedi’i meddiannu gan y Natsïaid.

Heddiw, mae'r porthladd fferïau masnachol hwn yn gweld mwy na dwy filiwn o bobl yn teithio rhwng gogledd Cymru a Dulyn bob blwyddyn.

Cydnabyddir fel adeilad rhestredig Gradd II gan Cadw ers: Gorffennaf 1988 (diwygiwyd ym mis Gorffennaf 1994)

Morglawdd Caergybi / Holyhead-breakwater

© Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Casgliad Aeroffilmiau

 

7. Hen Ffatri Willans & Robinson, Queensferry

Yn wreiddiol yn ffatri boeleri ddiwedd oes Fictoria, cafodd yr adeilad modernaidd hwn ei ddefnyddio mewn nifer o wahanol ffyrdd dros y blynyddoedd.

Erbyn 1914, daeth i feddiant y Llywodraeth i'w ddefnyddio fel gwersyll carcharorion rhyfel, ond cyn bo hir fe'i trawsnewidiwyd yn ffatri cynhyrchu arfau rhyfel yn lle hynny gan weithgynhyrchu nitro-cellwlos, tetryl a TNT.

Yn ogystal, sefydlwyd ysbyty dros dro ar y safle, gan drin tua 19,000 o bobl rhwng 1916 a 1917. Heddiw, mae'r tri adeilad a oedd yn ffurfio’r ffatri yn dal i sefyll yn eiddo i Scottish Power ac yn eu gweithredu ganddynt.

Cydnabyddir fel adeilad rhestredig Gradd II gan Cadw ers: Awst 2005

 

8. Priordy Brynbuga, Brynbuga a Chanolfan Henblas, Bala

Mae gan Briordy Brynbuga, a oedd yn lleiandy Benedictaidd yn wreiddiol, a Chanolfan Henblas, hen Dŷ Trefol Sioraidd, rywbeth yn gyffredin.

Yn y cyfnod cyn ymosodiad D-Day, defnyddiwyd yr adeiladau fel barics Byddin yr UD, gan gartrefu llawer o filwyr Americanaidd a oedd wedi'u lleoli yng Nghymru ar y pryd.

Cydnabyddir fel adeilad rhestredig Gradd II ers: Ebrill 1974 (diwygiwyd gan Cadw ym mis Ebrill 2004)

Priordy Usk / Usk Priory

© Llun gan: @gwrgant, Instagram

 

9. Hen Garchar Rhuthun, Rhuthun

Rhwng 1654 a 1916, dechreuodd Carchar Rhuthun fel 'tŷ cywiro' — sefydliad lle anfonwyd y rhai 'amharod i weithio' i'w cosbi a'u diwygio.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth yn ffatri arfau rhyfel gyda nifer o addasiadau wedi'u gwneud i'r adeilad i ddarparu ar gyfer cynhyrchu yn ystod y rhyfel.

Heddiw, y carchar yw'r unig garchar pwrpasol, yn arddull Pentonville sydd ar agor i'r cyhoedd fel atyniad treftadaeth.

Cydnabyddir fel adeilad rhestredig Gradd II ers: Hydref 1950 (diwygiwyd gan Cadw ym mis Gorffennaf 2006)

Ruthin Goal

© Llun wrth: tîm twristiaeth, Cyngor Sir Ddinbych