Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Yn seiliedig ar y chwedl werin Gymreig boblogaidd, Y Mabinogion, bydd y cynhyrchiad yn cael ei berfformio am y tro cyntaf mewn safleoedd treftadaeth ledled Cymru o fis Medi, fel rhan o Ŵyl Hanes Cymru i Blant 2022.

Bydd addasiad cwbl newydd o Y Mabinogi, gan Gwmni Theatr Struts and Frets, yn teithio 12 o safleoedd hanesyddol ysbrydoledig Cadw ledled Cymru yr hydref hwn – gyda’r chwedl glasurol yn cael ei pherfformio mewn lleoliadau canrifoedd oed am y tro cyntaf.

Bydd yr addasiad dwyieithog, safle-benodol o Bedair Cainc y Mabinogi yn ymweld â rhai o safleoedd hynaf Cymru – gan gynnwys cestyll Normanaidd Caernarfon a Chydweli, Abaty Nedd, a Phlas yr Esgob Tyddewi; gyda llawer o’r lleoliadau yn dyddio'n ôl dros 600 mlynedd.

Mae’r perfformiad, sy’n cynnwys pypedau, cerddoriaeth fyw, gwisgoedd anhygoel, adrodd straeon gwefreiddiol a chast ensemble aml-dalentog o 6, yn mynd i syfrdanu cynulleidfaoedd ifanc gyda gorchestion cymeriadau adnabyddus o’r Mabinogion, gan gynnwys y brenin enfawr a rydiodd ar draws y môr, Bendigeidfran.

Actors rehearsing performance

Meddai Francesca De Sica, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Struts and Frets,

“Mae’r cynhyrchiad hwn yn gwireddu uchelgais oes o ddramateiddio chwedloniaeth Gymreig ar safleoedd hanesyddol Cymru, yn Gymraeg, i’w rhannu gyda phlant ysgol (ac oedolion) Cymru. Ni allaf aros i weld actorion a chynulleidfaoedd yn gyffrous, wedi eu difyrru, ac yn falch o'u treftadaeth yn y dathliad hwn o hunaniaeth Gymreig.

“Rydym yn falch iawn o fod yn bartner gyda Cadw a Gŵyl Hanes Cymru i Blant ac edrychwn ymlaen at rannu ein haddasiad o’r straeon clasurol a bythol hyn gyda phlant Cymru.”

Yn y cynhyrchiad, bydd chwedlau Rhiannon, Blodeuwedd, a Phryderi yn mynd â phlant ar antur trwy gyfnod pan oedd hud yn mynd trwy dirwedd Cymru, straeon rhyfeddol am gewri yn llenwi'r awyr, brwydrau epig, a dewiniaid yn bwrw eu swynion.

Meddai'r actor Siân Owen, sy'n chwarae rhan Rhiannon,

“Y peth rydw i’n edrych ymlaen ato fwyaf am ddod â’r Mabinogi i’r llwyfan yw adrodd y straeon hudolus hyn mewn cestyll mawreddog i gynulleidfaoedd sydd o bosib heb brofi hud Y Mabinogion o’r blaen.

“Mae’r straeon yn ffenestr anhygoel i hanes a mytholeg Cymru – ac maen nhw’n llawer o hwyl hefyd!”

Mae Gŵyl Hanes Cymru i Blant 2022 yn dychwelyd i berfformiadau byw, wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers 2019, a bydd yn rhedeg o 12 Medi – 21 Hydref.

Bydd miloedd o blant yn cael y cyfle i ddysgu mwy am eu hanes, wrth i sefydliadau treftadaeth a chelfyddydau ddod at ei gilydd i gynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau, ar leoliad ac yn ddigidol.

Ochr yn ochr â’r perfformiadau mewn safleoedd treftadaeth, bydd yr ŵyl hefyd yn cynnig amrywiaeth o weithdai digidol wedi’u hwyluso gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Into Film ac eraill.

Mae ysgolion yn cael eu gwahodd i archebu sesiynau am ddim trwy wefan yr ŵyl, www.gwylhanes.cymru ar sail y cyntaf i’r felin.