Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Yn wreiddiol rhes o adeiladau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar fferm Sychbant yng nghwm Gwaun yn Sir Benfro, ail-godwyd yr adeilad hwn ym 1985 fel prif adeilad Canolfan Encil Gristnogol Ffaldybrenin.

Cafodd y trawsnewid ei gyflawni gan Christopher Day, pensaer Cymreig a fu’n gyfrifol am arloesi pensaernïaeth ecolegol neu ’wyrdd’.  Ei uchelgais oedd “to design projects which develop and enhance the spirit of place already there so that the new is not an imposition, but an organic development of the old.”

Cafodd cyfriniaeth Rudolf Steiner effaith fawr ar Day ac mae ei bensaernïaeth yn adlewyrchu ei bryderon ysbrydol a seicolegol ynghylch creu amgylcheddau “soul-nourishing”.

Ar yr un pryd roedd gan Day syniadau ymarferol ynghylch ôl-troed carbon a chostau egni deunyddiau adeiladu ymhell o flaen ei amser (neu ymhell o flaen ein hamser ni hyd yn oed), a mynegodd hwy mewn sawl llyfr, y mwyaf nodedig Places of the Soul ym 1990.

Cododd Christopher Day waliau cerrig hen adeiladau’r fferm i greu llinell do donnog i gydweddu â’r bryniau o gwmpas. Mae’r tu mewn wedi’i ail-fodelu; yn fwriadol yn yr ystafelloedd llety defnyddiwyd gwaith-plastr garw i greu arwynebau cyffyrddadwy ac onglau meddal. Hefyd, ychwanegodd Day gapel crwn ar ben gogleddol yr adeilad. Tra’r oedd hwn yn cael ei adeiladu darganfuwyd brigiad mawr o graig naturiol yn ymwthio allan i’r hyn a fyddai’n ganol y capel.

Yn hytrach na ffrwydro’r garreg penderfynodd Day ei chynnwys fel allor, gan ddweud yn ddiweddarach y byddai wedi bod yn anghywir “to found a house of peace on an explosion.”

Ffald y Brenin Christian Retreat Centre

Enillodd Day y wobr bensaernïol yn Eisteddfod Genedlaethol 1992 am ei waith yn Ffaldybrenin. Bu farw ym 2019.

Mae’r brif Ganolfan Encil ynghyd â’r Ganolfan Ddydd a’r Feudwyfa bellach i gyd wedi’u rhestru gan Cadw fel gwaith eco-bensaernïol pwysig o ddiwedd yr ugeinfed ganrif gan un o’i phrif ddehonglwyr yng Nghymru.

Fersiwn wedi ei golygu (a’i chyfieithu) o erthygl a ymddangosodd yn gyntaf yn Listed Heritage, cyfnodolyn aelodaeth y Listed Property Owners’ Club sydd yma.

Gallwch gael gwybodaeth ar sut mae adeiladau’n cael eu dewis ar gyfer eu rhestru a sut i ofyn am i adeilad gael ei ychwanegu i’r Rhestr yma.