Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae’r Hen Neuadd Farchnad sydd newydd gael ei rhestru yn ganolog i Flaenau Ffestiniog, ‘Dinas Llechi’ Eryri ac mae wedi ei hamgylchu gan chwareli a thomenni gwastraff.

Saif nesaf at Reilffordd Ffestiniog a oedd unwaith yn cludo llechi i lawr i’r harbwr ym Mhorthmadog ac sy’n dal i weithredu fel atyniad i dwristiaid. Adeiladwyd y Neuadd ym 1861 ar ddechrau cyfnod pan oedd Blaenau Ffestiniog yn tyfu’n aruthrol wrth i lechi’r Gogledd gael eu defnyddio i doi tai’r trefi a oedd ar eu twf yn y byd Fictoraidd. Erbyn i’r adeilad gael ei ailfodelu a’i ehangu yn yr 1880au, roedd poblogaeth Blaenau Ffestiniog wedi tyfu i 12,000 ac roedd yn allforio 150,000 tunnell o lechi y flwyddyn ar draws Ewrop, UDA a’r ymerodraeth Brydeinig.

Daeth y dref yn gadarnle i’r Gymraeg, sydd yn dal i gael ei siarad gan bedwar o bob pump o’r trigolion. Yn addas ddigon, mae llefydd tân gyda linteli llechfaen yn ogystal â tho llechi y Neuadd wedi eu cadw.

Blaenau Ffestiniog Old Market Hall - interior stage area

Wedi ei chynllunio gan Owen Morris, mae’r neuadd farchnad fawr hon yn ymgorffori uchelgais Blaenau Ffestiniog yn ei hanterth, ac roedd yn ganolfan ddemocratiaeth ac adloniant yn ogystal â busnes. Ar un cyfnod gwasanaethodd yr adeilad hefyd fel Neuadd y Dref ac roedd ei llawr uchaf yn theatr gyda bwa proseniwm.

Yma, fel gŵr ifanc, y gwnaeth y darpar Brif Weinidog, David Lloyd-George, ei areithiau cyntaf yn ymgyrchu ar ran y blaid Ryddfrydol yn Etholiad Cyffredinol 1885. Yn yr ugeinfed ganrif daeth tranc i hanes y Neuadd ynghyd â’r diwydiant llechi, a defnyddiwyd hi fel ffatri cyn ei rhoi heibio bron yn gyfan gwbl yn ystod y deugain mlynedd diwethaf.

Bellach, mae’r Hen Neuadd Farchnad nid yn unig wedi ei rhestru fel adeilad gradd II, ond y mae hefyd o fewn Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru, a gofrestrwyd gan UNESCO yn 2021 fel y pedwerydd cofnod o Gymru ar Restr Treftadaeth y Byd.  Mae’n ymuno â lleoedd mor rhyfeddol â Wal Fawr Tsieina, Göbekli Tepe, a’r Ynys Anghyraeddadwy ar restr o fri’r Cenhedloedd Unedig.

Fersiwn wedi ei golygu (a’i chyfieithu) o erthygl a ymddangosodd yn gyntaf yn Listed Heritage, cyfnodolyn aelodaeth y Listed Property Owners’ Club sydd yma. Gallwch gael gwybodaeth ar sut mae adeiladau’n cael eu dewis ar gyfer eu rhestru a sut i ofyn am i adeilad gael ei ychwanegu i’r Rhestr yma.