Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Yn eistedd ar fryncyn coediog yn edrych dros wastadedd o dir âr a thir pori, mae Pen-y-Graig yn Sir Ddinbych wedi bod yn dyst i ganrifoedd o newidiadau i arferion ffermio ac i fywyd gwledig Cymru.

Mae ei waith coed hynaf yn perthyn i’r Canol Oesoedd diweddar, ond ailadeiladwyd y ffermdy yn yr ail ganrif ar bymtheg o gerrig a gloddiwyd o’r bryncyn. Bryd hynny ychwanegwyd llawr uchaf a chorn simdde; roeddent yn rhoi i’r ffermwr a’i deulu fwy o gysur a phreifatrwydd ac yn eu gosod ymhellach ar wahân yn gymdeithasol oddi wrth eu gweision.

Yn yr 1800au cynnar, yn dilyn y deddfau Cau Tiroedd a'r chwyldro amaethyddol, cafodd y tŷ ei wella eto gydag adain gefn uwch na’r hen dŷ yn cael ei hychwanegu. Yn ddiweddarach ychwanegwyd llaethdy a golchdy.

Mae’r tŷ sydd yn awr wedi ei restru’n un gradd II* yn cynnwys nodweddion sydd wedi goroesi o bob cyfnod o’i hanes hir. Mewn ystafell yn y llofft gallwch ddarllen arysgrif wedi ei pheintio: ‘JW:EB 1775’. Wyddom ni ddim eto blaenlythrennau pwy ydynt, na llawer am breswylwyr y ffermdy dros y canrifoedd.

Listed building - Peny y Graig farmhouse - internal room showing timber beams

Roedd Watkin Williams, barnwr o gyfnod Victoria ac Aelod Seneddol, yn honni fod Pen-y-Graig wedi bod ym meddiant ei deulu af, ac iddynt fod ymhlith yr anghydffurfwyr cyntaf yn yr ardal.

Watkin Williams oedd y cyntaf i alw yn y Senedd am gael gwared ar statws Eglwys Loegr fel crefydd swyddogol Cymru, oherwydd erbyn hynny roedd y Methodistiaid, y Bedyddwyr a’r Annibynwyr yn llawer mwy niferus na’r Anglicaniaid yng Nghymru. Er mawr gywilydd, bu farw Williams o drawiad ar y galon tra’n ymweld â phuteindy yn Nottingham ym 1884, ond parhaodd ei achos ac yn y pen draw, ym 1920, llwyddodd.

Ynghyd â’r tŷ, mae ysgubor, ydlofft a hen gertws a stablau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, beudy, thŷ bach a sied wair a ychwanegwyd yn union wedi’r Ail Ryfel Byd oll wedi eu rhestru’n rhai gradd II.

Fersiwn wedi ei golygu (a’i chyfieithu) o erthygl a ymddangosodd yn gyntaf yn Listed Heritage, cyfnodolyn aelodaeth y Listed Property Owners’ Club sydd yma.

Gallwch gael gwybodaeth ar sut mae adeiladau’n cael eu dewis ar gyfer eu rhestru a sut i ofyn am i adeilad gael ei ychwanegu i’r Rhestr yma.