Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae Cadw yn ddiweddar wedi rhestru ar Radd II* felin lifio a yrrir gan ddŵr a gweithdy saer anarferol o gyflawn ac mewn cyflwr da, ynghyd â’r tŷ cysylltiedig, ym mhentref bach Pont-dôl-goch.

Yn sefyll ar lannau Afon Carno, cafodd rhannau hynaf Tŷ Coch eu hadeiladu yn yr ail ganrif ar bymtheg fel tŷ hir Cymreig, gyda’r tŷ fferm a’r sguboriau mewn teras hir dan do di-dor a mynediad rhwng adeiladau o’r tu mewn. Y cynllun traddodiadol hwn a oedd yn rhoi’r diogelwch gorau mewn canrifoedd pan oedd dwyn gwartheg yn rhemp yng Nghymru.

Erbyn dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd Tŷ Coch wedi newid i fod yn ganolfan gwaith coed ac mae wedi parhau i fod felly tan heddiw. Ym 1819, Tŷ Coch a gyflenwodd lawer o’r gwaith saer ar gyfer y capel Bedyddwyr cyntaf a adeiladwyd yn nhref gyfagos Caersws. Erbyn 1886 roedd y gynulleidfa wedi tyfu’n rhy fawr i’r capel ac fe’i disodlwyd, ond achubwyd rhannau o’r hen adeilad a’u hymgorffori yn Nhŷ Coch. Maent yn cynnwys ffenestr gron a dau bostyn arddull Tysgaidd a ddychwelodd i’r lle yr oeddent wedi’u cerfio i gynnal colofnfa uwchben ei ddrws ffrynt.

Yn ystod yr ugeinfed ganrif pasiwyd Tŷ Coch o law i law trwy sawl cenhedlaeth o’r teulu Owen, a ychwanegodd y felin lifio a yrrir gan ddŵr a gweithdy. Cafodd yr olwyn ddŵr haearn a dur bresennol ei gwneud yn Aberystwyth a’i gosod ym 1911. Mae’n troi ar echel sy’n hongian yn uchel uwchben yr iard sy’n arwain i’r gweithdy ac yn gyrru amrywiaeth o beiriannau, gan gynnwys llif gron, cylchlif, turn, amryw ddriliau a pheiriannau morteisio.

Parhaodd y teulu Owen i wneud olwynion, eirch a gwaith coed o bob math ar gyfer yr ardal leol tan 2005, ac mae’r perchnogion newydd wedi gofalu am y safle’n ofalus ers hynny. Mae’r peiriannau i gyd yn dal i weithio’n berffaith ac mae Tŷ Coch bellach yn wely a brecwast lle mae croeso i ymwelwyr weld yr olwyn ddŵr a’r offer yn cael eu defnyddio.

Fersiwn wedi ei golygu (a’i chyfieithu) o erthygl a ymddangosodd yn gyntaf yn Listed Heritage, cyfnodolyn aelodaeth y Listed Property Owners’ Club sydd yma. Gallwch gael gwybodaeth ar sut mae adeiladau’n cael eu dewis ar gyfer eu rhestru a sut i ofyn am i adeilad gael ei ychwanegu i’r Rhestr yma.