Adeiladau Rhestredig Newydd: Y tŷ gwreiddiol yn Fferm Lower Cosmeston
Nid yw’n amlwg o edrych ar du allan Fferm Lower Cosmeston ei bod yn hŷn na’r adeiladau fferm eraill o’i chwmpas.
Y tu mewn, fodd bynnag, gellir gweld gweddillion lleoedd tân ysblennydd na chawsant eu defnyddio rhyw lawer yn ystod y ganrif ddiwethaf wrth i wartheg a cheffylau gymryd yr adeilad drosodd. Mae’r nodweddion hyn yn dystiolaeth o ddechreuadau’r adeilad fel ffermdy, dros 400 mlynedd yn ôl fwy na thebyg.
O ddarllen yr adeilad, gallwn weld fod y tŷ hwn wedi ei helaethu yn yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif cyn i ffermdy cwbl newydd gael ei adeiladu gerllaw ac i’r hen dŷ gael ei droi’n ysgubor a stablau yn ddiweddar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwnaed newidiadau eraill, fel ail-doi â haearn rhychiog, yn ddiweddarach.
Roedd y tŷ gwreiddiol yn arwydd o atgyfodiad pentref Cosmeston. Mae’r enw Cosmeston yn tarddu o’r teulu Normanaidd de Costentin a ymsefydlodd yma tua diwedd yr unfed ganrif ar ddeg, yn ystod ymgyrchoedd Robert Fitzhamon yn erbyn brenhinoedd Cymru i greu Arglwyddiaeth Morgannwg.
Tyfodd y pentrefan tan iddo gael ei daro gan ddau drychineb - y Pla Du a rhyfel Glyndŵr - ac erbyn dechrau’r bymthegfed ganrif roedd wedi ei adael. Gadawyd yr ardal i natur wyllt am fwy na chan mlynedd cyn i’r ffermdy hwn gael ei adeiladu. Erbyn hyn roedd y tir ym meddiant y teulu Herbert, disgynyddion Dafydd Gam a oedd wedi arwain y Brenhinwyr Cymreig yn erbyn Owain Glyndŵr ac a fu farw yn ddiweddarach yn Agincourt. Roedd y boblogaeth yn tyfu unwaith eto a thir anghyfannedd yn cael ei adfer.
Mae Cosmeston bellach yn faestref fawr o dref glan-môr Penarth, ac yn ehangu. Ail-ddarganfuwyd y pentref cynharach a adawyd gan archeolegwyr yn yr 1980au ac mae wedi ei ailadeiladu’n ddychmygus fel Pentref Canoloesol Cosmeston. Ail ddarganfuwyd gweddillion y ffermdy ôl-ganoloesol yn ddiweddar gan ymchwilwyr lleol ac maent nawr wedi’u rhestru fel rhai Gradd II gan Cadw.
Fersiwn wedi ei golygu (a’i chyfieithu) o erthygl a ymddangosodd yn gyntaf yn Listed Heritage, cyfnodolyn aelodaeth y Listed Property Owners’ Club sydd yma.
Gallwch gael gwybodaeth ar sut mae adeiladau’n cael eu dewis ar gyfer eu rhestru a sut i ofyn am i adeilad gael ei ychwanegu i’r Rhestr yma.