Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Heddiw, mae Cadw wedi lansio ei fenter newydd Treftadaeth 15 Munud sy'n gwahodd pobl ledled Cymru i archwilio'r dreftadaeth sydd ar garreg eu drws.

Nod y prosiect yw ysbrydoli pawb i archwilio o fewn taith gerdded 15 munud i ble maent yn byw, gan ddarganfod yr hanes, y bensaernïaeth a'r straeon lleol sy'n hawdd eu cyrraedd o'u cartrefi eu hunain. Mae darganfod y cysylltiadau hyn â'r gorffennol yn helpu i'n cysylltu drwy ymdeimlad o hanes a rennir yn ein cymunedau heddiw.

Gall archwilio hanes eich cymuned leol ddatgelu straeon diddorol sydd yng ngwead yr adeiladau a'r lleoedd o'ch cwmpas, o bensaernïaeth nodedig, adeiladau hanesyddol, beddau’r enwog, llongddrylliadau anghofiedig a hanesion y bobl a oedd unwaith yn byw lle rydych chi'n byw nawr. Yn ogystal â meithrin ymdeimlad o dreftadaeth a rennir mewn cymunedau ledled Cymru, a mynd allan i'w harchwilio, mae'n ardderchog ar gyfer eich lles corfforol a meddyliol.

Daw'r syniad ar gyfer y fenter o gysyniad cynllunio o'r enw y ddinas 15 munud, sy'n fan lle gall pawb ddiwallu'r rhan fwyaf o'u hanghenion o fewn taith gerdded fer yn unig o’u cartref.

Mae Cadw wedi rhoi hwb cychwynnol i'r prosiect drwy archwilio'r dreftadaeth sydd ar garreg ein drws ni ein hunain, gan ddefnyddio StoryMaps digidol i blotio'r dreftadaeth o amgylch rhai o'n cartrefi a ble rydym yn gweithio. Mae'r cyntaf o'r rhain bellach ar gael ar ein gwefan, gyda StoryMaps newydd yn cael eu hychwanegu yn y dyfodol.

Rydym yn gobeithio creu banc o straeon diddorol am ardaloedd ledled Cymru a fydd yn ysbrydoli darllenwyr i greu eu stori treftadaeth 15 munud eu hunain.

Rydym hefyd wedi creu pecyn ar gyfer ysgolion sy'n gwahodd plant i ymchwilio i'w treftadaeth 15 munud eu hunain a rhannu eu canfyddiadau yn eu cymuned leol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

'Mae treftadaeth 15 munud yn gysyniad gwych, oherwydd mae'n gwneud i ni sylweddoli nad yw treftadaeth yn ymwneud â chestyll a safleoedd mawr y mae'n rhaid i ni deithio i ymweld â nhw yn unig, ond mae ar y strydoedd ac yn y mannau gwyrdd sydd ar garreg ein drws yn llythrennol.

'Drwy gydol 2020 mae cymunedau wedi dod at ei gilydd i gefnogi a gofalu am deulu, cymdogion a ffrindiau, ac erbyn hyn mae Cadw yn chwilio am ffyrdd newydd y gall treftadaeth helpu i atgyfnerthu cysylltiad pobl â'u hardal leol.'

I gael rhagor o wybodaeth am Dreftadaeth 15 Munud, gan gynnwys ein pecyn dysgu a'n casgliad cynyddol o StoryMaps, ewch i: cadw.llyw.cymru/dysgu/treftadaeth-15-munud