Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Adroddiad Heritage Counts 2019 yn tynnu sylw at rôl swyddogion cadwraeth...

Mae swyddogion cadwraeth awdurdodau lleol yn cyflawni rôl bwysig mewn cymdeithas drwy helpu busnesau newydd a rhai sy’n ehangu i ddod o hyd i leoliadau priodol ac achub adeiladau sy’n hoff gan bawb rhag esgeulustod a rhag cael eu dymchwel o bosibl, meddai adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Grŵp Amgylchedd Hanesyddol Cymru (HEG).

Mae’r adroddiad Heritage Counts yn tynnu sylw at effeithiau a chyflawniadau’r sector treftadaeth yn 2018-19, yn cynnwys Neuadd y Farchnad yng Nghaergybi, sydd wedi’i ailwampio’n ddiweddar, ar ôl bod yn adfeiliedig am ddeng mlynedd, ac sydd bellach yn gartref i lyfrgell newydd, canolfan gymunedol a hyb menter ar gyfer busnesau newydd y dref. Mae’r gwaith o addasu adeiladau hanesyddol i greu bwyty’r Hen Fwthyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a’r gwaith o addasu Adeilad hanesyddol Jennings ym Mhorthcawl yn gaffi poblogaidd a chanolfan busnesau bach gan gyflogi 80 o bobl, yn cael sylw yn yr adroddiad hefyd.

Mae’r prif ffigurau’n dangos bod twristiaeth treftadaeth a gwaith adeiladu treftadaeth yng Nghymru’n creu cyflogaeth ar gyfer 40,000 o bobl, a bod yr ymweliadau ysgol â’r Amgueddfa Genedlaethol a safleoedd hanesyddol a reolir gan Cadw yn gwneud y sector treftadaeth yn gyfrwng dysgu gwych yng Nghymru. Mae treftadaeth yn denu nifer sylweddol o dwristiaid i Gymru hefyd,  a gwnaeth gwariant ymwelwyr gyfraniad o £1.72 biliwn at economi Cymru'r llynedd.

Mae’r adroddiad yn dangos hefyd bod swyddogion cadwraeth yn haeddu llawer mwy o glod, gan fod eu gwaith yn mynd ymhell tu hwnt i oruchwylio prosiectau’n ymwneud ag adeiladau hanesyddol yn unig: maen nhw’n cyflawni rôl hanfodol mewn prosiectau adfywio, gan godi arian, annog partneriaethau a chynnig gweledigaeth o ddyfodol gwell ar gyfer adeiladau hanesyddol ledled Cymru y mae pobl mor hoff ohonynt.