Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Mae Cadw yn cyhoeddi cyfres gyffrous o ddigwyddiadau arswydus ac anhygoel y Calan Gaeaf hwn mewn lleoliadau hanesyddol ledled Cymru.

O gestyll hynafol i adfeilion dirgel, dewch i ddarganfod treftadaeth gyfoethog Cymru trwy lens wahanol y mis hwn gyda chyfres o ddigwyddiadau a phrofiadau fydd yn danfon ias lawr eich cefn.

P’un ai ydych chi'n mwynhau cael eich brawychu, neu os yw’n well gennych rywbeth i'ch ymlacio, mae gweithgareddau hydrefol Cadw wedi yn cynnig rhywbeth i'r teulu cyfan. Gyda digwyddiadau mewn lleoliadau adnabyddus fel Castell BiwmaresCastell CaerffiliChastell Cydweli, nid oes ffordd well o greu atgofion parhaol y tymor arswydus hwn.

Dyma rai o’r digwyddiadau y gallwch edrych ymlaen atynt ar galendr hydref prysur Cadw'r mis hwn:

Annwn (Castell Caernarfon)

Annwn sioe ysgafn / laser show

Profwch fyd hudolus Annwn, lle mae rhyfeddodau sonig yn cwrdd â delweddau laser cyfareddol o fewn muriau hanesyddol Castell Caernarfon. Bydd y profiad laser a sain arallfydol hwn – sy’n dod yn fyw gan yr artist Cymreig Gruff Rhys a goleuo rhyfeddol Chris Levine – yn cymysgu celf laser, sain a natur arloesol ar raddfa epig yn un o adeiladau gorau’r Oesoedd Canol.

Mae’n rhaid cael tocynnau i’r digwyddiad hwn ac mae’n rhaid archebu lle. Gwybodaeth am y digwyddiad: 27, 28 a 29 Hydref, 18.00 – 23.00

Ystafel Ddianc y Rhyfelglod (Castell Conwy)

Merch gyda phwmpen as Calan Gaeaf / Girl with pumpkin at Halloween

Darganfyddwch gyfrinachau consuriwr drwg-enwog Castell Conwy, Maldwyn mab Diafol. Mae ei gell carchar wag yn parhau i fod yn ddirgelwch hyd yn oed saith cant ac ugain mlynedd ar ôl ei ddiflaniad. Gall anturiaethwyr o bob oed roi eu hunain yn esgidiau Maldwyn a cheisio ffoi o’r gaer ganoloesol odidog mewn profiad ystafell ddianc wefreiddiol.

Gwybodaeth am y digwyddiad: Dydd Sadwrn 28 a Dydd Sul 29 Hydref, 11.00 – 15.00

Hanes Ysbrydion a Taith Noson Llên Gwerin (Gwaith Haearn Blaenafon)

Gwaith Haearn Blaenafon  / Blaenafon Ironworks

Bydd taith fin nos yng Ngwaith Haearn Blaenafon, cawr diwydiannol Cymru, yn eich arwain yn ddwfn i galon chwedlau Cymreig a dirgelion lleol. Bydd ymwelwyr yn cael eu trwytho yn chwedlau arswydus a mytholeg hanesyddol Blaenafon a Blaenau Gwent. Gorffennwch eich antur ar Safle Treftadaeth y Byd gyda diod boeth gysurus a phice ar y maen hyfryd (i helpu i atal yr hunllefau…).

Cynghorir ymwelwyr i gyrraedd 15 munud cyn i'r digwyddiad ddechrau, dewch â fflachlamp boced fechan, offer gwlyb ac esgidiau cadarn.

Gwybodaeth am y digwyddiad: Dydd Sul 29 Hydref, 19:00 – 21.30

Penwythnos Tylwyth Teg Tywyll (Castell Rhaglan)

Calan Gaeaf - tri o blant / Halloween - three children

Mae rhai cymeriadau brawychus yn ymgartrefu ar gyfer y tymor arswydus yng Nghastell Rhaglan. Dewch i gwrdd (neu redeg i ffwrdd o) gasgliad o ddihirod o fyd ffantasi, wrth i dywyllwch setlo dros silwét digamsyniol Rhaglan. Y penwythnos tylwyth teg hwn bydd hoff stori arswydus pawb cyn bo hir.

Gwybodaeth am y digwyddiad: Dydd Sadwrn 28 a Dydd Sul 29 Hydref, 11.00 – 15.00

Calan Gaeaf Arswydus Castell Coch (Castell Coch)

Calan Gaeaf - merch mewn gwisg yn cario pwmpen / Halloween - girl in costume carrying pumpkin

Mae digonedd o anturiaethau iasoer i’w cael yng Nghastell Coch yn ystod gwyliau hanner tymor. Dewch i brofi cwest Calan Gaeaf arbennig lle dim ond yr ysbrydion cryfaf bydd yn gallu ei chwblhau a chael eu gwobrwyo gyda danteithion dirgel.

Gwybodaeth am y digwyddiad: Dydd Sadwrn 28 a Dydd Sul 29 Hydref, a Dydd Sadwrn 4 a Dydd Sul 5 Tachwedd 11.00 – 15.00

Nosweithiau Calan Gaeaf (Castell Caerffili)

Dewch am noson i ffwrdd o'ch bwganod bach eich hun i ddarganfod rhyfeddodau Castell Caerffili, caer ganoloesol nerthol Cymru, a chael eich diddanu gan straeon arswydus am ysbrydion a mwy. Mae’r castell yn mynd yn arswydus yn y tywyllwch, felly mae’n well dod â fflachlamp i gadw unrhyw beth sinistr sy’n llechu yn y cysgodion i ffwrdd. Mae angen archebu lle ar gyfer y digwyddiadau hyn.

Gwybodaeth am y digwyddiad: Dydd Gwener 27 a Dydd Llun 30 Hydref, 18:00 – 20:00 a 20:30 – 22:30 

Chwedlau Cymreig Arswydus a Helfa Ystlumod (Llys yr Esgob Tyddewi)

Dewch i ymweld â Phalas Esgob Tyddewi a gwrandewch ar chwedlau gwerin Gymreig draddodiadol o fewn ei gelloedd, mewn profiad sy’n ddigon brawychus i ddanfon ias oer i lawr eich asgwrn cefn. Os nad yw hynny’n ddigon brawychus, gall ymwelwyr fentro’n ddyfnach i’r adeilad hanesyddol a darganfod popeth am yr ystlumod sy’n byw ynddo. Efallai y cewch chi hyd yn oed gip ar un go iawn yn y cysgodion...

Gwybodaeth am y digwyddiad: Dydd Mawrth 31 Hydref, 10:30 – 16:00

Cyffro’r Calan Gaeaf (Castell Talacharn)

plant mewn gwisgoedd Calan Gaeaf / children in Halloween costumes

Dewch â ffrindiau a theulu ynghyd am olygfa arswydus yng Nghastell Talacharn. Cychwynnwch ar daith i'ch dychryn ar hyd llwybr Calan Gaeaf, lle mae dirgelion a rhyfeddodau yn llechu ym mhob cornel. Dilynwch y llwybr iasol am gyfle i ennill tric arbennig … neu trît.

Gwybodaeth am y digwyddiad: Dydd Sul 29Hydref, 10:00-16:00

Noson o Straeon Ysbrydion (Amryw o Leoliadau) 
Digwyddiad i oedolion yn unig, gwisgwch yn gynnes a pharatowch ar gyfer noson bydd yn eich arwain i fyd hudolus straeon ysbryd a chwedlau lleol, a ddaw yn fyw diolch i'r storïwyr dawnus. Bydd dwy sesiwn drwy gydol y noson, a gyda nifer cyfyngedig o lefydd ar gael, mae archebu lle ymlaen llaw yn hanfodol.

Gwybodaeth am y digwyddiad: 

Castell Cydweli,: Dydd Llun 30 Hydref, 18:30 & 20:30

Llys a Chastell Tretŵr: Dydd Mawrth 31 Hydref, 18:00 & 20:30

Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau a gwybodaeth archebu, ac i ddarganfod digwyddiadau yn lleol i chi, ewch i cadw.llyw.cymru

I’r rhai sydd am fanteisio ar y digwyddiadau sydd ar gael yn ystod gwyliau hanner tymor, mae aelodaeth Cadw yn cynnig mynediad am ddim i ddigwyddiadau a mynediad diderfyn i dros 130 o leoedd hanesyddol ledled Cymru, gan gynnig ffordd unigryw o archwilio treftadaeth gyfoethog Cymru.

Mae dros 130 o leoedd hanesyddol a 1,000 o resymau i bawb i ddod yn aelod Cadw. Rhagor o wybodaeth yn https://www.aelodaethcadw.gwasanaeth.llyw.cymru/