Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Heddiw, mae Cadw, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru – National Museum Wales wedi cyhoeddi cynlluniau i ailagor nifer o’u hamgueddfeydd dan do, mannau dan do safleoedd hanesyddol, ac arddangosfeydd o’r wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 17 Mai.

Daw’r newyddion yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru ynghylch cynlluniau i ailagor atyniadau ymwelwyr ac amwynderau dan do y sector lletygarwch yng Nghymru yr wythnos nesaf, o dan reoliadau a chanllawiau ymbellhau cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Bydd mannau dan do sy’n perthyn i’r tri chorff treftadaeth, gan gynnwys henebion hanesyddol, cartrefi gwledig ac amgueddfeydd, yn ailagor er mwyn galluogi ymwelwyr sydd â thocynnau yn unig eu mwynhau.

Bydd yr holl fannau dan do yn ailagor gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol llym ar waith i sicrhau profiad ymwelwyr diogel i bobl ledled Cymru a’r DU yn ehangach.

Tra bod mannau awyr agored mewn llawer o safleoedd Cadw wedi dechrau ailagor o ddiwedd mis Mawrth, o ddydd Llun 17 Mai bydd y gwasanaeth treftadaeth yn ailagor mannau dan do safleoedd hanesyddol sydd eisoes wedi croesawu ymwelwyr yn ôl. Yn ogystal, bydd heneb dreftadaeth eiconig arall sydd o dan ofal y corff yn ailagor am y tro cyntaf: Tŷ Tref Elisabethaidd Plas Mawr yng Nghonwy. Bydd castell tylwyth teg de Cymru, Castell Coch, hefyd yn ailagor am y tro cyntaf yn yr wythnosau nesaf.

Bydd Safle Treftadaeth y Byd, Castell Caernarfon, hefyd yn agor ar gyfer ymwelwyr dan do o ddydd Sadwrn, 22 Mai.

Yng Nghastell Caernarfon, mae gwaith cadwraeth sylweddol yn digwydd ym Mhorth y Brenin i wella mynediad hirdymor i’r safle. Felly, bydd pob ymwelydd yn derbyn canllaw cyflenwol, i wneud yn iawn am unrhyw darfu. Bydd mynediad i’r castell yn awr drwy’r Tŵr yr Eryr mawreddog, yn hytrach na thrwy brif fynedfa Porth y Brenin, nad oes modd cael mynediad trwyddo ar hyn o bryd. Gellir trefnu mynediad i’r anabl wrth archebu.

Er mwyn cael mynediad i’r holl safleoedd Cadw sydd â staff, bydd angen i ymwelwyr cyffredinol ac aelodau Cadw fel ei gilydd archebu eu tocynnau amser neilltuedig o leiaf 24 awr cyn eu hymweliad, ac mae tocynnau bellach ar gael ar wefan Cadw.

Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw:

“Rydyn ni’n falch o gyhoeddi y bydd y rhan fwyaf o safleoedd Cadw bellach yn cael eu hailagor yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 17 Mai, ac rydyn ni’n falch iawn o wahodd ymwelwyr yn ôl i fwy o’n safleoedd treftadaeth poblogaidd ledled Cymru.

“Hoffem ddiolch i aelodau ac ymwelwyr Cadw am eu hamynedd parhaus wrth i safleoedd ailagor, ac ymddiheurwn efallai na fydd ymwelwyr yn gallu cael mynediad i bob rhan o’n safleoedd oherwydd yr angen i gydymffurfio â’r rheolau parhaus sy’n ymwneud ag ymbellhau cymdeithasol.

“Serch hynny, rydyn ni wrth ein bodd, oherwydd y newid yn y rheoliadau, y gall Cadw bellach agor hyd yn oed mwy o safleoedd i ymwelwyr eu mwynhau a’u harchwilio.”

Yn y cyfamser, mae staff a gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn edrych ymlaen at groesawu dychweliad ymwelwyr i fannau dan do yn rhai o’i heiddo dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys Castell Penrhyn, Castell Powys a Gardd â Thŷ Newton yn Ninefwr.

Bydd angen i ymwelwyr edrych ar wefannau eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol cyn ymweld er mwyn gwirio trefniadau ailagor yr eiddo unigol, a gofynnir i ymwelwyr gadw at Reoliadau Llywodraeth Cymru bob amser.

Yn olaf, o ddydd Mercher 19 Mai, bydd Amgueddfa Cymru yn ailagor mannau dan do mewn tri safle sydd dan ei gofal, gan gynnwys Amgueddfa Werin Sain Ffagan, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe. Bydd y safleoedd hyn ar agor ar gyfer ymweliadau rhwng dydd Mercher a dydd Sul bob wythnos.

Bydd Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Pwll Mawr yn ailagor ddydd Iau 20 Mai ar gyfer ymweliadau wythnosol rhwng dyddiau Iau a Sul.

Mae’r tu mewn i Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis yn ailagor ddydd Iau 20 Mai a bydd ar agor bob dydd Iau - dydd Llun ym mis Mai cyn dychwelyd i ddydd Mercher - dydd Sul o fis Mehefin ymlaen.

Bydd Amgueddfa Wlân Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig yng Nghaerllion hefyd yn ailagor ddydd Iau 20 Mai a byddant yn croesawu ymwelwyr bob dydd Iau - dydd Sadwrn.

Bydd angen i ymwelwyr ragarchebu tocynnau am ddim cyn unrhyw ymweliad â’r Amgueddfa drwy ymweld â www.museum.wales, a rhaid iddyn nhw gadw at reoliadau cadw pellter llym, systemau unffordd a gweithdrefnau hylendid uwch bob amser.

Mae’r tri chorff treftadaeth yn cydweithio i annog eu haelodau ac ymwelwyr cyffredinol i wneud addewid i ofalu am eu cymunedau ehangach a threftadaeth Cymru, yn unol â negeseuon ymgyrch Addo Croeso Cymru.

Y gobaith yw y bydd hyn yn annog ymwelwyr i ymddwyn mewn modd diogel a pharchus wrth ddychwelyd i ymweld â’u hoff henebion, neu wrth fynd ar daith i ymweld â safle newydd o arwyddocâd hanesyddol am y tro cyntaf.